BPEC Dyfarniad mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Dwr Poeth Thermol Solar Lefel 3
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gosod a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol bach. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac fe'i cydnabyddir gan gyrff cofrestru'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) fel cymhwyster derbyniol i ymuno ag un o'u cynlluniau priodol.
Mae BTEC yn ddarparwr arbenigol o asesiadau, cyrsiau hyfforddi, deunyddiau dysgu a chymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan ddiwydiannau.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cymhwyster Lefel 3 hwn yn ddelfrydol os ydych yn blymwr neu beiriannydd profiadol sydd eisiau gosod a chynnal a chadw'r math hwn o dechnoleg amgylcheddol. Mae'n cynnwys 5 uned orfodol, sy'n cynnwys elfennau ymarferol a damcaniaethol. Rhaid cyflawni'r HOLL unedau er mwyn cyflawni’r cymhwyster cyffredinol.
- Gwybod y gofynion ar gyfer gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dwr poeth thermol solar
- Gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
- Gwybod y gofynion ar gyfer archwilio, trin a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
- Archwilio, trin a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
Mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau damcaniaethol ac ymarferol.
Mae cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn profi bod dysgwyr yn gymwys i osod, comisiynu, datgomisiynu gwasanaeth a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar, ac felly, bydd yn ymestyn cyfleoedd gyrfa yn y maes technolegau newydd.
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf cymhwyster NVQ lefel 2/3 mewn plymwaith neu beirianneg gwresogi confensiynol
NEU dystiolaeth amlwg o feddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol
Yn ogystal â hyn, dylai ymgeiswyr hefyd eisoes wedi cwblhau:
- Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig Wedi’u Hawyru a Heb Eu Hawyru
https://www.coleggwent.ac.uk/course/LA0038/bpec-domestic-hot-water-storage-systems-unvented?uioid=504788
- Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr
https://www.coleggwent.ac.uk/course/LA0043/bpec-water-regulations-by-laws?uioid=504790
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer peirianwyr mecanyddol a phlymwyr cymwys sydd eisiau ymestyn eu sgiliau. Mae'n cynnig gwybodaeth fanwl am Systemau Gwresogi Thermal Solar, a'r gallu i osod a chynnal a chadw systemau o'r fath yn y cartref.
MPLA0031AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.