En

HND Seiberddiogelwch

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Er mwyn ymrestru, bydd angen o leiaf 3 TGAU ar radd C neu'n uwch arnoch, gan gynnwys mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth), yn ogystal â:

Noder, os na fyddech chi'n bodloni'r meini prawf graddau, yna gellir ystyried oedran a phrofiad.

Yn gryno

Byddwch yn cael sylfaen gadarn mewn cyfrifiadura, gan gyfeirio'n benodol at yr elfen seiber, dadansoddi, dylunio a systemau gwybodaeth.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi am weithio yn y diwydiant ond am ennill cymhwyster ffurfiol
... Ydych chi'n chwilio am yrfa newydd sbon
... Ydych chi am gael dealltwriaeth eang ond dofn o gyfrifiadura, systemau gwybodaeth a'r elfen seiber

Beth fyddaf yn ei wneud?

Blwyddyn  1 - Lefel 4

Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl 20 credyd ar lefel 4 ac mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

· Systemau a Phensaernïaeth Cyfrifiaduron

· Offer a Thechnegau Seiberddiogelwch

· Systemau Gwybodaeth

· Technolegau Rhwydwaith ar Waith

· Rhaglennu ar gyfer Seiberddiogelwch

· Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd

Bydd Lefel 4 yn eich darparu â throsolwg eang o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau a galluoedd cymwysedig, cyn i chi gael yr opsiwn i symud ymlaen i Lefel 5.

Ar lefel 5 byddwch chi'n astudio ar un o'r pum modiwl ganlynol:

· Ffurfweddu Rhwydweithiau

·Diogelwch Rhaglenni'r We

· Sicrwydd Gwybodaeth a chydymffurfiad

· Prosiect Ymarferydd Grŵp Seiberddiogelwch

· Cysyniadau Systemau Diogelwch

Mae'r modiwlau hyn yn parhau â'r thema o ddefnyddio tasgau ymarferol ac agored i ganiatáu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o'r cysyniadau a gwmpaswyd yn ogystal â sgiliau ymarferol a gwerthfawrogiad o ddylanwad y cyd-destun. Mae asesiadau yn aros yn amrywiol gyda chyfuniad sydd yn cynnwys gwaith ymarferol ysgrifenedig, portffolio a chyflwyniad ar lafar.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn ymrestru, bydd angen o leiaf 3 TGAU ar radd C neu'n uwch arnoch, gan gynnwys mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth), yn ogystal â:

Noder, os na fyddech chi'n bodloni'r meini prawf graddau, yna gellir ystyried oedran a phrofiad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall myfyrwyr symud ymlaen i ail flwyddyn BSc (Anrhydedd) Seiber ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cwrs breiniol gan Brifysgol De Cymru yw hwn.

Ble alla i astudio HND Seiberddiogelwch?

EFHD0040AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr