Yn gryno
Mae’r HND (Diploma Cenedlaethol Uwch) mewn Rheolaeth Adeiladu yn datblygu ar y wybodaeth a’r sgiliau a fagwyd wrth gwblhau’r HNC. Edrychir ar hanfodion y diwydiant adeiladu a chynllunio, iechyd a diogelwch a rheoli adnoddau dynol mewn adeiladu, rheoli sefydliadau adeiladu, ac ansawdd mewn adeiladu.
... Rydych eisoes wedi cwblhau ac wedi ennill cymhwyster HNC mewn adeiladu
… Rydych chi eisiau dilyn gyrfa ym maes adeiladu
Mae’r HND (Diploma Cenedlaethol Uwch) mewn Rheolaeth Adeiladu yn datblygu ar y wybodaeth a’r sgiliau a fagwyd wrth gwblhau’r HNC. Edrychir ar hanfodion y diwydiant adeiladu a chynllunio, iechyd a diogelwch a rheoli adnoddau dynol mewn adeiladu, rheoli sefydliadau adeiladu, ac ansawdd mewn adeiladu.
Mae’r Modiwlau a Astudir ar yr HND yn dibynnu ar lwybrau.
Y llwybrau a gynigir:
- Peirianneg Sifil
- Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Rheoli Adeiladu
- Technoleg Saernïol
- Tirfesur
Technoleg Saernïol Tirfesur
- Cyfraith y Amgylchedd Adeiledig
- Economeg y Amgylchedd Adeiledig
- Egwyddorion y Amgylchedd Adeiledig
- Technolegau Digidol
- Datblygiad a Chymdeithas
- Technoleg Adeiladu
Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Cymryd rhan mewn darlithoedd gan ddilyn dull astudio lle cewch eich rhyddhau chi am ddiwrnod.
- Wrth gofrestru, gwneud ymholiad ynghylch cyllid gan y llywodraeth drwy ein prentisiaethau uwch.
- Cwblhau Asesiadau sy’n seiliedig ar waith cwrs fydd yn cael ei ddosbarthu yn ystod ail flwyddyn eich cwrs.
- Astudio astudiaethau achos prosiectau cyfredol, gan ddangos diddordeb realistig a chyfleoedd i gymryd rhan mewn sefyllfaoedd proffesiynol.
Ar ôl cwblhau’r HND yn llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i’r Brifysgol i ddatblygu graddau llawn.
Mae gennym gysylltiadau gwych gyda’n prifysgolion lleol a gallwn drefnu sesiynau blas, diwrnodau agored a thrafodaethau gyda thiwtoriaid yn y sefydliadau hynny.
Fel arall, byddai HND Lefel 5 yn gymhwyster delfrydol er mwyn dilyn gyrfa mewn tirfesur adeiladau, peirianneg safle, rheoli safle neu Dechnoleg Saernïol.
Byddwch angen cwblhau HNC yn llwyddiannus mewn Disgyblaet briodol neu Gymhwyster HND/Gradd sy’n cefnogi newid mewn gyrfa.
Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel prentisiaeth genedlaethol uwch.
