En

HND mewn Cyfrifiadura

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:

 

a: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.

Yn gryno

Cewch sylfaen gadarn mewn egwyddorion cyfrifiadura, gan gyfeirio’n arbennig at ddadansoddi, dylunio a gweithredu systemau cyfrifiadurol mewn cyd-destun busnes.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych yn gweithio yn y diwydiant ond os ydych eisiau cymhwyster ffurfiol ... ydych yn chwilio am yrfa newydd sbon ... ydych eisiau dealltwriaeth eang ond dwfn o gyfrifiadura

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae cyfrifiadura’n rhan o bopeth a wnawn, felly bydd cymhwyster fel hwn yn siwr o arwain at lu o gyfleoedd gyrfa.

Blwyddyn Un

  • Ymarfer proffesiynol mewn cyfrifiadura
  • Datblygu meddalwedd
  • Dadansoddi a dylunio systemau gwybodaeth 1
  • Systemau cyfrifiadurol a chysyniadau rhwydweithio
  • Rhaglennu cyfrifiadurol 1
  • Datblygu gwefannau
  • Datrys problemau’n ymwneud â chyfrifiadura

Blwyddyn Dau

  • Prosiect unigol HND
  • Pensaernïaeth a modelu systemau
  • Rhaglennu cyfrifiadurol 2
  • Datblygu gwefannau ymatebol
  • E-fusnes
  • Diogelwch systemau cyfrifiadurol

Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfrwng cymysgedd o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial a sesiynau ymarferol. Hefyd, byddwch yn mynd i’r afael â dysgu dan gyfarwyddyd, darllen deunyddiau cefndir a gweithdai cyfrifiadurol, ac yn datblygu meddalwedd trwy ddefnyddio dulliau datblygu meddalwedd 3GL a 4GL. Bydd pob modiwl yn cynnwys aseiniadau, a bydd rhai’n cynnwys arholiadau ar y diwedd.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen o leiaf 3 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth) ynghyd â’r canlynol:

 

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall myfyrwyr symud yn eu blaen at ail flwyddyn BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn yn masnachfraint gan Brifysgol De Cymru.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND mewn Cyfrifiadura?

NFHD0021AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr