Yn gryno
Bydd y cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) rhoi sylfaen gadarn yn ymarferol ac academaidd o ddealltwriaeth o wasanaethau cyhoeddus a brys, y rhinweddau, gwerthoedd a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i lwyddo yn y sector hwn.
Sylwer fod y ffioedd cwrs sydd wedi’u nodi yn berthnasol ar gyfer pob blwyddyn astudio.
... Rydych yn dyheu i weithio i’r gwasanaethau argyfwng ney sector cyhoedd
... Rydych chi’n gweithio’n dda dan bwysau
... Hoffech chi ennill sgiliau ymarferol a sgiliau damcaniaethol
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu dros 2 flynedd. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau 5 modiwl craidd, ac yna 6 mwy yn y flwyddyn ail. I sicrhau eich bod yn deall sut mae gwasanaethau cyhoeddus a brys yn gweithredu, byddwch yn astudio’r modiwlau isod gyda ni.
Blwyddyn 1
Deall Cymunedau a Data Arweinyddiaeth Awyr Agored,
Arweinyddiaeth Awyr Agored, Chwilio ac Achub
Sgiliau proffesiynol ar gyfer Gwas Cyhoeddus yr 21ain Ganrif
Democratiaeth, Ymgyrchoedd a Newid
Archwilio Trosedd a Gwyrni
Blwyddyn 2
Cyfraith Gwasanaeth Cyhoeddus
Safbwyntiau Byd-eang ar Drais a Gwrthdaro
Trychinebau ac Argyfyngau: Gwydnwch, Ymateb, Achub ac Adfer
Profiad Gwaith Gwasanaethau Cyhoeddus
Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Prosiect Ymchwil Gwasanaethau Cyhoeddus
Rydym yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau brys, nid yn unig ar gyfer trychinebau mawr fel tsunamis a daeargrynfeydd, ond hefyd ar gyfer pryderon mwy lleol, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymuned. Yn aml, mae'r gwasanaethau brys yn cydweithio â gwasanaethau cyhoeddus eraill i gynllunio ar gyfer argyfyngau, fel ymosodiad terfysgol neu geisio datrys problemau cymhleth ac anodd.
I sicrhau bod gennych ddealltwriaeth dda o sut mae gwasanaethau brys a chyhoeddus yn gweithredu, byddwch yn astudio sawl modiwl craidd lle byddwch yn ennill sgiliau ymarferol ac yn rhoi eich sgiliau arwain ar waith ar daith ym Mannau Brycheiniog neu rywle cyfagos.
Byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau. Fel arfer, cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau ymarferol a gweithdai yw hwn. Yn nes at ddiwedd y cwrs, bydd yna gyfle i chi weithio ar brosiectau, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau.
Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, fel arfer cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Ar gamau diweddarach y cwrs, cewch gyfle i weithio ar brosiectau, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau. Mae gweithgareddau allanol hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen, yn ogystal â siaradwyr gwadd a gwaith prosiect. Mae amrywiaeth o ddulliau asesu ac er bod y rhan fwyaf o fodiwlau wedi'u seilio ar waith cwrs, bydd yna rhai arholiadau. Mae gwaith cwrs yn cynnwys prosiectau bywyd go iawn, traethodau, gwaith grwp a chyflwyniadau.
Caiff oriau cyswllt dangosol, cytundebau dysgu, ac ymrwymiadau astudio annibynnol eu dangos yn y ddogfen cwrs sydd wedi’i dilysu a gallwch chi ei chyrchu drwy’r ddolen hon https://curriculum.southwales.ac.uk/Course/Details?courseId=CRS000696
Mae'r cwrs hwn yn gymhwyster gwerthfawr os ydych chi eisiau dilyn gyrfa yn yr heddlu, y gwasanaeth tân neu ambiwlans, y lluoedd arfog, gwasanaethau carchar a diogelwch, Tollau Tramor a Chartref EM, neu sefydliadau gwasanaeth cymunedol.
Gallwch hefyd symud ymlaen i flwyddyn olaf y radd BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru
Ystyrir pob cais ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.
Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.
Cyflwynir y cwrs hwn dros ddau ddiwrnod. Masnachfraint Prifysgol De Cymru ydyw hefyd.
Y cod UCAS yw: 534L
Ceir ffi o £80 i £100 i dalu am gyfarpar
