• Rhan Amser

HNC Peirianneg Fecanyddol

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2026
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£2355.00
£2355.00 Tuition Fees

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni about our payment plans.
Please note, all advertised fees are for one year only, unless otherwise stated in the additional information below.

Yn gryno

Cafodd yr Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC) Peirianneg Fecanyddol Lefel 4 ei gynllunio mewn ymgynghoriad â'r diwydiant gyda’r bwriad o gysylltu â'r diwydiant lleol cymaint â phosibl, yn ei gyd-destun yn ogystal ag yn y dull mynychu.

Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion y byd gwaith. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith

Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, yn ogystal â chaniatáu astudiaeth bellach ar lefel gradd a thu hwnt.

...y rheiny sydd eisiau gyrfa mewn Peirianneg, Dylunio, Gweithgynhyrchu neu Gynnal a Chadw

...myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dylunio a gweithgynhyrchu peiriannau gwres, systemau electro niwmatig a hydrolig, injan jet, cerbydau, rocedi ac awyrennau

...myfyrwyr sy’n ffafrio cyrsiau galwedigaethol, ymarferol

...unigolion rhifog, creadigol sy’n gallu cymell eu hunain

Mae'r cwrs yn darparu sylfaen drwyadl i’r cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol gan y sector.

Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:

Blwyddyn 1

  • Peirianneg Mathemateg (byddwch yn dysgu'r sgiliau mathemategol sydd eu hangen i ddatrys problemau peirianneg a deall perthnasedd mathemateg mewn peirianneg)
  • Technegau Peirianneg Proffesiynol (Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â'r sgiliau allweddol a fydd yn darparu sylfaen ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol yn y dyfodol)
  • Thermohylifau 1 (Byddwch yn cael dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau thermodynamig a mecanig hylifol hylifau a nwyon a sail ar gyfer astudiaeth uwch)

Blwyddyn 2

  • Gwyddor Fecanyddol 1 (Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg ym meysydd statig a deinamig ac yn ymchwilio i nifer o brif egwyddorion gwyddonol)
  • Systemau Mesur (Byddwch yn dysgu nodi a dewis synwyryddion ar gyfer mesur peirianyddol a dylunio cylchedwaith prosesu signal sylfaenol
  • Dylunio a Gweithgynhyrchu (Byddwch yn ennill gwybodaeth mewn dylunio peirianneg, gweithgynhyrchu a deunyddiau i ennill sgiliau sylfaenol mewn ymarfer gweithgynhyrchu

Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.

Asesiad

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy waith cwrs ac arholiadau yn bennaf.

Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:

  • Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
  • CC ar Lefel A
  • Graddau CC ar Lefel A ac C ym Magloriaeth Cymru

Hefyd: Pas TGAU mewn tri phwnc ar radd C neu'n uwch i gynnwys mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Bydd myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant nad ydynt yn cwrdd â'r cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn unigol trwy gyfweliad.

Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i HND Lefel 5 mewn Peirianneg Fecanyddol neu flwyddyn gyntaf/ail flwyddyn rhaglen gradd prifysgol.

Fel arall, gallwch symud ymlaen i swyddi technegwyr peirianneg.

Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CPHC0029AC
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Llun

Fees: £2355.00

£2355.00 Tuition Fees

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod?

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy