Yn gryno
Cafodd yr Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC) Peirianneg Fecanyddol Lefel 4 ei gynllunio mewn ymgynghoriad â'r diwydiant gyda’r bwriad o gysylltu â'r diwydiant lleol cymaint â phosibl, yn ei gyd-destun yn ogystal ag yn y dull mynychu.
Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion y byd gwaith. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, yn ogystal â chaniatáu astudiaeth bellach ar lefel gradd a thu hwnt.
...y rheiny sydd eisiau gyrfa mewn Peirianneg, Dylunio, Gweithgynhyrchu neu Gynnal a Chadw
...myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dylunio a gweithgynhyrchu peiriannau gwres, systemau electro niwmatig a hydrolig, injan jet, cerbydau, rocedi ac awyrennau
...myfyrwyr sy’n ffafrio cyrsiau galwedigaethol, ymarferol
...unigolion rhifog, creadigol sy’n gallu cymell eu hunain
Mae'r cwrs yn darparu sylfaen drwyadl i’r cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol gan y sector.
Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:
Blwyddyn 1
- Peirianneg Mathemateg (byddwch yn dysgu'r sgiliau mathemategol sydd eu hangen i ddatrys problemau peirianneg a deall perthnasedd mathemateg mewn peirianneg)
- Technegau Peirianneg Proffesiynol (Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â'r sgiliau allweddol a fydd yn darparu sylfaen ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol yn y dyfodol)
- Thermohylifau 1 (Byddwch yn cael dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau thermodynamig a mecanig hylifol hylifau a nwyon a sail ar gyfer astudiaeth uwch)
Blwyddyn 2
- Gwyddor Fecanyddol 1 (Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg ym meysydd statig a deinamig ac yn ymchwilio i nifer o brif egwyddorion gwyddonol)
- Systemau Mesur (Byddwch yn dysgu nodi a dewis synwyryddion ar gyfer mesur peirianyddol a dylunio cylchedwaith prosesu signal sylfaenol
- Dylunio a Gweithgynhyrchu (Byddwch yn ennill gwybodaeth mewn dylunio peirianneg, gweithgynhyrchu a deunyddiau i ennill sgiliau sylfaenol mewn ymarfer gweithgynhyrchu
Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.
Asesiad
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy waith cwrs ac arholiadau yn bennaf.
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
- CC ar Lefel A
- Graddau CC ar Lefel A ac C ym Magloriaeth Cymru
Hefyd: Pas TGAU mewn tri phwnc ar radd C neu'n uwch i gynnwys mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Bydd myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant nad ydynt yn cwrdd â'r cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn unigol trwy gyfweliad.
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i HND Lefel 5 mewn Peirianneg Fecanyddol neu flwyddyn gyntaf/ail flwyddyn rhaglen gradd prifysgol.
Fel arall, gallwch symud ymlaen i swyddi technegwyr peirianneg.
Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn