BPEC Tystysgrif Rheoliadau a Deddfau Dwr (WRAS)

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Gofynion Mynediad
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar ychydig o wybodaeth am y diwydiant plymwaith a’r diwydiant dŵr.
Byddai angen dangos tystiolaeth/cadarnhâd fel rhan o’r broses ymgeisio.
Yn gryno
Mae’r cwrs yn cynnwys Rheoliadau Cyflenwad Dwr (Ffitiadau Dwr) (Cymru a Lloegr) 1999 ac mae’n bodloni gofynion Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dwr (WRAS) y mae’r mwyafrif o gwmnïau dwr y DU yn aelodau ohono.
Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol ym maes cymwysterau, cyrsiau hyfforddiant a deunyddiau dysgu a gydnabyddir gan ddiwydiant.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim a dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Dyma'r cwrs i chi os...
... unrhyw un y mae angen dealltwriaeth o reoliadau/is-ddeddfau dwr arno. Yn enwedig, y rhai sy’n dymuno bod yn blymwyr/contractwyr cymeradwy.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r llawlyfrau hyfforddiant yn cynnwys 12 modiwl, rhagair a rhestr termau. Mae’r cwrs cynhwysfawr iawn yn dechrau trwy hyfforddiant dwys yn y 12 modiwl. Ar ôl hyn, bydd angen cwblhau’r asesiadau. Nid oes unrhyw elfennau ymarferol – mae’r holl hyfforddiant yn seiliedig ar theori. Mae’n rhaid i ymgeiswyr lwyddo i basio pob un o’r asesiadau i ennill tystysgrif WRAS/BPEC mewn Rheoliadau/Is-ddeddfau Dwr.
Cynhelir yr hyfforddiant a’r asesu yn y ganolfan sydd, fel arfer, yn para am un diwrnod. Fodd bynnag, bydd angen astudio annibynnol cyn mynychu’r sesiwn.
Bydd ennill y dystysgrif hon yn bodloni rhai o ofynion mynediad y meini prawf i ymuno â chynllun personau cymwys e.g. (APHC) lle, efallai y bydd angen cymhwyster cydnabyddedig mewn plymio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid oes gan dystysgrifau Rheoliadau/Is-ddeddfau Dwr ddyddiad dod i ben.
Anogir ymgeiswyr llwyddiannus i ymuno â chynllun cymeradwy ar gyfer plymwyr/contractwyr megis y rhai a reolir gan SNIPEF, APHC, CIPHE, WIAPS, a’r cwmnïau cyfleustodau dwr rhanbarthol. Mae hyn yn eu galluogi nhw i gyflwyno tystysgrif ar gwblhau gwaith i berchennog y cartref a’r cwmni dwr.
Sylwer, efallai y bydd angen cymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant arnoch chi er mwyn ymuno â’r cynlluniau hyn.
Os caiff ei gwblhau y tu allan i Gyfrif Dysgu Personol, cost y cwrs hwn fydd £POA yr ymgeisydd.
Bydd dyddiadau cyrsiau yn cael eu trafod wrth wneud cais.
Cyflwynir y cwrs hwn yn ein Parth Dysgu Blaenau Gwent a champws Casnewydd yn seiliedig ar alw.
Mae'r cwrs yn rhedeg dros 1 ddiwrnod.
BCEM0059AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.