Yn gryno
Mae'r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi llwyddo yn y Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle neu gwrs gloywi dilynol yn flaenorol ac sy'n gallu darparu tystiolaeth o'u presenoldeb.
Ei nod yw cadw gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn gyfredol, yn ogystal â rhoi trosolwg trylwyr o newidiadau deddfwriaethol a'u heffaith ar y gweithle.
...unrhyw un sydd ar hyn o bryd yn dal tystysgrif Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle sydd ar fin dod i ben.
Mae'r cwrs 2 ddydd hwn yn darparu cyfle i ailymweld â'r ystod eang o bynciau o'r cwrs 5 diwrnod, gan gynnwys:
- Gosodiad y safle
- Rheoliadau CDM
- Asesiadau risg
- Datganiadau dull
- Sgaffaldwaith
- Trydan
- Gwaith cloddio
- Dymchwel
- Gweithio mewn llefydd cyfyng.
Byddwch yn cael eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys tasgau grŵp ac arholiad 25 cwestiwn gyda chwestiynau aml-ddewis ac atebion ysgrifenedig byr.
Mae mynychu'r 2 ddiwrnod llawn yn orfodol.
Wedi i chi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif sy'n ddilys am 5 blynedd.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn dal tystysgrif Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle sy'n ddilys am hyd y cwrs.
Mae'n rhaid i fynychwyr fod yn rhugl o ran Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar ar gyfer gweithredu'n effeithlon ar lefel rheoli safle.
Cost sylfaenol y cwrs hwn yw £390.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd). ... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn ac sy'n dymuno gwneud cais am y cwrs hwn fel rhan o'r fenter PLA defnyddiwch y ddolen isod i wneud cais os gwelwch yn dda:
https://www.coleggwent.ac.uk/course/LA0016/citb-site-management-safety-training-scheme-smsts?uioid=504791