Yn gryno
Mae World Host yn rhaglen hyfforddi gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf sy'n darparu rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid, gan osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant masnachol. Mae'r gweithdai rhyngweithiol yn berthnasol iawn i rolau gwasanaeth cwsmeriaid, gan alluogi cyfranogwyr i gymhwyso eu gwybodaeth newydd yn gyflym a meithrin sgiliau trosglwyddadwy. Mae busnesau sy'n defnyddio World Host yn adrodd am fwy o gymhelliant staff, gostyngiad mewn trosiant a salwch, gwell sgorau gwasanaeth cwsmeriaid, busnes ailadroddus, teyrngarwch cwsmeriaid uwch, a gwell sgorau sicrwydd ansawdd ar wefannau fel TripAdvisor.
...Unrhyw un sy’n dymuno cael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant gwasanaethau cwsmer.
...Unrhyw un sydd yn dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu.
...Unrhyw gwmni a hoffai i’w staff ddarparu’r math o wasanaeth cwsmer sy’n eu gosod ar wahân i’w cystadleuwyr ac sy’n sicrhau bod cwsmeriaid yn dychwelyd.
Gweithdai rhyngweithiol, dengar sy’n hynod berthnasol ar gyfer pobl sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaeth cwsmer. Gall cyfranogwyr gymhwyso eu gwybodaeth newydd yn sydyn gan ennill sgiliau trosglwyddadwy y byddant yn gallu eu defnyddio am y gweddill o’u bywydau.
Mae busnesau sydd wedi ymwneud â World Host wedi adrodd am fuddion allweddol megis:
- Cynyddu cymhelliant staff a lleihau trosiant a salwch staff.
- Gwella cyfraddau wasanaeth cwsmer.
- Busnes sy’n cael ei ailadrodd ychwanegol a theyrngarwch cwsmer gwych.
- Gwelliant mewn sgoriau a chyfraddau sicrwydd ansawdd ar safleoedd megis TripAdvisor.
Mae undedau'r cwrs yn cynnwys:
- Adnabod anghenion cwsmeriaid a rheoli disgwyliadau.
- Pwysigrwydd creu argraff wych am y tro cyntaf.
- Cymhwyso gwasanaeth cwsmer o fewn eich rôl a’ch sector.
- Sgiliau cyfathrebu i wella’r ffordd rydych yn rhyngweithio gyda chwsmeriaid.
- Gadael argraff barhaol.
- Cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol.