Yn gryno
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r egwyddorion cyffredinol sy’n ymwneud ag atal damweiniau wrth godi a chario, gan wneud y cyfranogwyr yn fwy ymwybodol o ddiogelwch. Bydd yn cynorthwyo i gynnwys gweithwyr mewn gwelliannau iechyd a diogelwch, ynghyd ag addysgu technegau codi priodol i’r mynychwyr (codi cinetig) a’u galluogi i gynnal asesiadau risg syml yn ymwneud â chodi a chario. O’r herwydd, bydd modd i’r cwrs gynorthwyo i dynnu sylw at beryglon cyffredin y bydd pobl yn debygol o ddod ar eu traws yn y rhan fwyaf o weithleoedd.
Gellir teilwra’r cwrs hwn i ddiwallu’r gofynion busnes a’r amgylcheddau gwaith.
…pob gweithiwr, yn cynnwys is-oruchwylwyr, heb hyfforddiant ffurfiol mewn codi a chario.
Bydd y cwrs yn ymdrin â sut i wneud y canlynol:
- Pennu peryglon cyffredin sy’n debygol o fod yn bresennol yn y gweithle.
- Defnyddio technegau codi priodol (codi cinetig).
- Cynnal asesiadau risg syml yn ymwneud â chodi a chario.
- Deall deddfwriaethau perthnasol – HASWA 1974, Rheoliadau Codi a Chario 1992. Sicrhau bod y mynychwyr yn deall sut y mae modd i’r camau a gymerant eu rhoi eu hunain, eu cydweithwyr, neu bobl sy’n mynd trwy’r gweithle, mewn perygl.
Er na chaiff y cwrs hwn mo’i asesu, bydd yr ymgeiswyr yn mynd i’r afael â’r canlynol:
- Technegau codi
- Pennu risgiau a chynnig atebion
- Cwis iechyd a diogelwch
Mae’r cwrs hwn yn gofyn am ddealltwriaeth o’ch amgylchedd gwaith.
Gall yr ymgeiswyr sy’n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, eu dyfarnu â thystysgrif presenoldeb Coleg Gwent, a gallent symud ymlaen, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, i un o'n cymwysterau iechyd a diogelwch ardystiedig megis Diogelwch Safle Plws CITB neu Reoli'n Ddiogel IOSH.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Fel arfer, cyflwynir y cwrs hwn dros hanner diwrnod (3 awr). Dyfernir tystysgrif bresenoldeb Coleg Gwent i ymgeiswyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs.