• Rhan Amser
  • Lefel 3

YMCA Diploma mewn Tylino ar gyfer Perfformio Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
17 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Lefel
3

Yn gryno

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i dylino ar lefel sylfaenol ar feinwe nad yw’n batholegol, efallai fel atodiad at hyfforddiant personol neu sesiwn yn y gampfa.

Pwrpas y cymhwyster hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddarparu tylino er mwyn paratoi ac adfer ar ôl gweithgareddau caled.

Mae hefyd yn bodloni’r gofyniad cyn-mynediad ar gyfer Tystysgrif Lefel 4 newydd YMCA mewn Therapi Tylino Chwaraeon (Camweithrediad Meinwe Meddal), yr unig gymhwyster sydd wedi’i fapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer mynediad i SMA ar gyfer aelodaeth fel therapydd tylino chwaraeon.

... Gweithwyr proffesiynol cymwys ym maes ffitrwydd

...Unrhyw un sy’n chwilio am yrfa fel therapydd tylino chwaraeon.

I ennill Diploma YMCA Lefel 3 mewn Tylino Perfformiad, bydd angen i chi gyflawni 8 uned orfodol:

  • Hanfodion anatomeg a ffisioleg (M/650/4982)

  • Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth o iechyd (K/616/7949)

  • Anatomeg a ffisioleg bellach ar gyfer tylino perfformiad (L/650/1361)

  • Ymarfer tylino proffesiynol (M/650/1362)

  • Egwyddorion camweithrediad meinwe feddal (A/650/6136)

  • Asesu cleientiaid a chynllunio triniaeth (R/650/1363)

  • Defnyddio tylino perfformiad (Y/650/1365)

  • Darparu cyngor gofal ar ôl triniaeth (T/650/1364)

Nid oes unrhyw ragofynion ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dechrau ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Perfformiad.

  • Rydych yn 16+
  • Rydych yn digon heini
  • Mae gennych chi sgiliau cyfarthrebu sylfaenol

Mae hwn yn gymhwyster ymarferol a damcaniaethol felly byddwch chi’n ennill profiad ymarferol i atgyfnerthu eich gwybodaeth ddamcaniaethol.

Mae gan y cwrs hwn 2 ddull talu a chaiff ei redeg fel rhan o ddarpariaeth yn ystod y dydd a chyda'r nos.

Darpariaeth yn ystod y dydd: Cyflwynir y sesiynau wyneb yn wyneb ar ddyddiau Llun a dyddiau Gwener o 8.30am tan 4.30pm

Darpariaeth gyda'r nos: Mae'r cwrs yn gyfuniad o ddysgu wyneb-yn-wyneb ac o bell. Cynhelir y dysgu wyneb-yn-wyneb ddydd Mawrth o 4yp tan 9yh.

Chwaraeon a Ffitrwydd

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UPDI0498AA
Amser Dechrau
09:30
Hyd
17 wythnosau
Amser Gorffen
15:30
Dull Astudio
Dysgu cyfunol
Dyddiau
Dydd Llun

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy