Yn gryno
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i dylino ar lefel sylfaenol ar feinwe nad yw’n batholegol, efallai fel atodiad at hyfforddiant personol neu sesiwn yn y gampfa.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddarparu tylino er mwyn paratoi ac adfer ar ôl gweithgareddau caled.
Mae hefyd yn bodloni’r gofyniad cyn-mynediad ar gyfer Tystysgrif Lefel 4 newydd YMCA mewn Therapi Tylino Chwaraeon (Camweithrediad Meinwe Meddal), yr unig gymhwyster sydd wedi’i fapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer mynediad i SMA ar gyfer aelodaeth fel therapydd tylino chwaraeon.
... Gweithwyr proffesiynol cymwys ym maes ffitrwydd
...Unrhyw un sy’n chwilio am yrfa fel therapydd tylino chwaraeon.
I ennill Diploma YMCA Lefel 3 mewn Tylino Perfformiad, bydd angen i chi gyflawni 8 uned orfodol:
-
Hanfodion anatomeg a ffisioleg (M/650/4982)
-
Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth o iechyd (K/616/7949)
-
Anatomeg a ffisioleg bellach ar gyfer tylino perfformiad (L/650/1361)
-
Ymarfer tylino proffesiynol (M/650/1362)
-
Egwyddorion camweithrediad meinwe feddal (A/650/6136)
-
Asesu cleientiaid a chynllunio triniaeth (R/650/1363)
-
Defnyddio tylino perfformiad (Y/650/1365)
-
Darparu cyngor gofal ar ôl triniaeth (T/650/1364)
Nid oes unrhyw ragofynion ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dechrau ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Perfformiad.
- Rydych yn 16+
- Rydych yn digon heini
- Mae gennych chi sgiliau cyfarthrebu sylfaenol
Mae hwn yn gymhwyster ymarferol a damcaniaethol felly byddwch chi’n ennill profiad ymarferol i atgyfnerthu eich gwybodaeth ddamcaniaethol.
Mae gan y cwrs hwn 2 ddull talu a chaiff ei redeg fel rhan o ddarpariaeth yn ystod y dydd a chyda'r nos.
Darpariaeth yn ystod y dydd: Cyflwynir y sesiynau wyneb yn wyneb ar ddyddiau Llun a dyddiau Gwener o 8.30am tan 4.30pm
Darpariaeth gyda'r nos: Mae'r cwrs yn gyfuniad o ddysgu wyneb-yn-wyneb ac o bell. Cynhelir y dysgu wyneb-yn-wyneb ddydd Mawrth o 4yp tan 9yh.