Yn gryno
Dyma gwrs Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau VRQ (Cymhwyster Galwedigaethol) Lefel 3 manwl.
... Ydych yn dymuno datblygu eich galluoedd a'ch gwybodaeth.
... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn peirianneg fodurol.
... Ydych eisoes yn gweithio yn y diwydiant cerbydau modur.
Dyma dystysgrif dechnegol ar gyfer gwella eich gwybodaeth Lefel 2, neu ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant cerbydau modur ac sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth o ran diagnosteg a thrwsio systemau cerbydau. Bydd yn ymdrin ag injans, siasis a rheoli injans.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ar-lein ac asesiadau ymarferol mewnol. Ar ol cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Lefel 3 mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster/cymwysterau ategol priodol pan fo'n berthnasol i deilwra cynnwys y rhaglen er mwyn diwallu anghenion penodol y gymuned, y dysgwr neu'r diwydiant.
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Addysg Uwch neu brentisiaeth.
Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn a chwblhau TGAU Mathemateg a Saesneg yn llwyddiannus i Radd C.
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00 a hefyd bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun.
*Gweler y wefan i gael manylion llawn am Fagloriaeth Cymru.