En

BTEC Rhaglen Beirianneg Uwch – Mecanyddol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys:

TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig.

Yn gryno

Mae hwn yn gwrs blwyddyn, llawn amser (5 diwrnod yr wythnos). Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd ei hangen arnoch i fynd yn eich blaen i weithio yn y sector peirianneg. Byddwch yn gwneud prosiectau ymarferol yn y gweithdy ac astudiaeth ddamcaniaethol.

Drwy gwblhau'r cwrs blwyddyn yn llwyddiannus byddwch yn gallu mynd yn eich blaen yn gynt i'r ail flwyddyn o raglen brentisiaeth yn y gweithle. Felly, mae bod yn ddysgwr ar y Rhaglen Peirianneg Uwch yn cynyddu eich apêl i ddarpar gyflogwyr sy'n awyddus i recriwtio prentisiaid.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych eisiau dilyn gyrfa yn y maes Peirianneg Fecanyddol

...hoffech fynd yn eich blaen i brentisiaeth lawn yn y diwydiant peirianneg

...hoffech gymysgedd o astudiaethau ymarferol a damcaniaethol

...hoffech astudio ar gyfer cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hwn yn gwrs ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig a wynebir yn y gweithle.

Darperir y cwrs hwn yn llawn amser am 30 awr yr wythnos am 36 wythnos ar gampws y coleg. Gan fod hon rhaglen uwch bydd yna hefyd gyfuniad o brofiad mewn lleoliad gwaith ac ymweliadau â'r diwydiant. Byddwch yn gysylltiedig ag un neu fwy o gwmnïau peirianneg ar gyfer eich lleoliadau gwaith a fydd yn digwydd am o leiaf 5 wythnos ac am uchafswm o 12 wythnos.

Byddwch yn astudio ar gyfer Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Peirianneg Lefel 3 BTEC. Mae'r unedau BTEC yn cynnwys:

 

  • Egwyddorion Peirianneg
  • Cyflawni Prosesau Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm
  • Dylunio a Gweithgynhyrchu Cynnyrch Peirianneg
  • Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur

Byddwch hefyd yn dilyn Diploma mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PGP) NVQ Lefel 2. Bydd y PGP yn rhoi i chi sgiliau gweithdy peirianneg fecanyddol hanfodol (e.e. Torri Metel, Troi, a Gosod â Llaw) sydd eu hangen arnoch ar gyfer fframwaith y brentisiaeth.

Bydd eich gwybodaeth a'ch cymhwysedd ymarferol yn cael ei asesu'n barhaus. Bydd hyn yn cynnwys asesiadau mewnol ac allanol.

Pan fyddwch wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn cyflawni:

  • Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3 BTEC
  • Diploma NVQ Lefel 2 – 6 uned wedi eu dewis i gefnogi ceisiadau penodol gan y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ddiwedd y cwrs byddwch wedi datblygu'r sgiliau ymarferol sylfaenol, gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg fecanyddol ac arferion yn y gweithdy. Byddwch yn cael eich annog i geisio prentisiaeth o fewn y diwydiant perthnasol lle all cyfleoedd gwaith gynnwys dylunio cynnyrch, gwneud offer, gweithgynhyrchu, peirianneg awyrofod a modurol.

Gallwch barhau i astudio am flwyddyn arall, ar sail rhyddhau am ddiwrnod, i gyflawni Diploma Genedlaethol mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 BTEC. Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i fynd yn eich blaen i astudio ar gyfer addysg uwch- megis BTEC, HNC a HND.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn cael cist offer a fydd yn werth oddeutu £200.000 ar ôl ichi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, penseli lliw, cwmpas, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Rhaglen Beirianneg Uwch – Mecanyddol Lefel 3?

CVDI0413AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr