Yn gryno
Mae’r Rhaglen Beirianneg Uwch amser llawn hon yn darparu hyfforddiant, profiad gwaith go iawn a’r cyfle i symud ymlaen i brentisiaeth noddedig lawn. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, a bod ag awydd cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg, gan fod dilyniant o'r cwrs hwn yn brentisiaeth.
Byddwch yn cael eich asesu trwy asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, arddangosiadau, portffolios ac arsylwadau. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith o leiaf 5 wythnos.
... Ydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn peirianneg drydanol
… Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno’n llawn amser dros gyfnod o 36 wythnos am 30 awr yr wythnos ar gampws y coleg. Ceir rhwng 5 wythnos (150 awr) a 12 wythnos o leoliad profiad gwaith. Byddwch yn ymweld â nifer o’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.
Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:
- Unit 1 – Engineering Principles (Double Unit) (Externally Assessed)
- Unit 2 – Delivery of Engineering Processes Safely as a Team (3 Assignments)
- Unit 3 – Engineering Product Design and Manufacture (Double Unit) (Externally Assessed)
- Unit 19 – Electronic Devices and Circuits. (3 Assignments)
You’ll be assessed through practical and written assessments, presentations, demonstrations, portfolios and observations. Upon completion, you’ll achieve:
- Lefel 3 mewn Peirianneg (Trydanol)
- Lefel 2 PEO (Sefydliad Cyflogwr Proffesiynol) – 6 uned a ddewisir i ategu gofynion penodol y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig
Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg yn ofynnol, gan y bydd y cwrs hwn yn arwain at Brentisiaeth. Disgwylir i bawb gadw at ethos y coleg a bod yn barod i gymryd rhan mewn o leiaf 5 wythnos o leoliad gwaith.
An Apprenticeship or employment.
5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys: TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig.
- GCSE at grade C in English or Welsh First Language and a B in Maths, along with three other grade C’s preferably Science or related subjects
Byddwch yn cael cist offer a fydd yn werth oddeutu £200.000 ar ôl ichi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, penseli lliw, cwmpas, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.