City & Guilds Trin Gwallt Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
1
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa trin gwallt, ac mae'n ddelfrydol os oes gennych ychydig neu ddim sgiliau na phrofiad presennol yn y maes hwn. Bydd y cwrs hwn hefyd yn datblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer wrth ddelio â chleientiaid.
Dyma'r cwrs i chi os...
...wrth eich bodd â thrin gwallt a harddwch
...rydych eisiau newid eich gyrfa
...rydych yn hoff o dorri gwallt eich ffrindiau a theulu ac eisiau ennill cymhwyster.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau trin gwallt, yn cynnwys:
- Ymgynghoriadau â chleient
- Sgiliau derbynfa
- Golchi gwalltiau
- Chwythsychu
- Torri sylfaenol
- Y grefft o addurno gwallt
- Gwallt i fyny
- Lliwio gwallt
- Creu steil gwallt cyflawn gan ddefnyddio lliw
A byddwch yn dysgu'r uchod drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grwp
- Lleoliad gwaith
- Gweithgareddau cyfoethogi megis teithiau, ymweliadau, siaradwyr gwadd a sgyrsiau diwydiannol
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'ch gwybodaeth sylfaenol. Unwaith y byddwch wedi'i gwblhau, byddwch yn cyflawni:
-
- NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt ac Unedau L2 mewn Trin Gwallt
- Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ddilyn y cwrs byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Bydd angen i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar, yn gyfeillgar a bod â lefel uchel o gyflwyniad personol.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith byddwch wedi cwblhau'r cwrs, gallwch symud ymlaen at NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis dan hyfforddiant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cost y cwrs yw oddeutu £200-£250.
Cod gwisg:
- Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
- Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau ewinedd na farnais ewinedd
- Dim gemwaith na thlysau, cewch wisgo modrwy briodas yn unig yn y salon
Bydd disgwyl i chi brynu gwisg a phecyn trin gwallt fel amod o'ch lle ar y cwrs.
CPDI0313AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr