En

BTEC Diploma 90 Credyd mewn Rheoli Ceffylau Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ateb y galw yn y diwydiant ceffylau am unigolion cymwys, wedi eu hyfforddi’n dda.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Rydych chi'n symud ymlaen o Ddiploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau

...Rydych yn symud ymlaen o gwrs Lefel 2 yn y Gwaith

...Mae gennych brofiad perthnasol ac yn dymuno datblygu eich sgiliau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn ymdrin ag unedau mewn:

  • Marchogaeth ar y gwastad a thros glwydi
  • Dysgu
  • Sgiliau hwsmonaeth ac iechyd datblygedig
  • Gwyddor ceffylau ac atgynhyrchu
  • Profiad gwaith a sgiliau allweddol

Mae’r cwrs hefyd yn cynnig y cyfle i baratoi ar gyfer a sefyll arholiadau BHS (Cymdeithas Geffylau Prydain) hyd at lefel Hyfforddwr Cynorthwyol (BHSAI).

Byddwch yn cael budd o’r cyfleusterau ardderchog yn y ganolfan geffylau sy’n ganolfan arholiad BHS cymeradwy hyd at lefel hyfforddwr canolig. Mae’n uned geffylau fach, gyda chyfarpar da, yn cynnwys iard stabl sy’n lletya hyd at 15 o geffylau i chi eu defnyddio ar gyfer eich sesiynau marchogaeth a sesiynau ymarferol. Mae dau arwyneb maint llawn modern ar gyfer pob tywydd, un ohonynt dan do, neidiau sioe, ardal hyfforddi draws gwlad a chaeau pori. Mae’r ganolfan wedi ei staffio gan dîm profiadol cymwys iawn sy’n eich goruchwylio a chefnogi wrth i chi ymgymryd â dyletswyddau iard a phrofiad gwaith. Wrth weithio yn iard y coleg bydd eich dealltwriaeth o ofal ceffylau yn ehangu.

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig a byddwch yn ennill:

  • Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I fynd i mewn i’r cwrs, bydd angen isafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda chymwysterau TGAU i gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu uwch.

Mae angen ymrwymiad llawn at bresenoldeb. Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunangymhelliad, ynghyd ag angerdd am astudiaethau ceffylau yw’r rhinweddau hanfodol y disgwyliwn weld yn ein holl ddysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaol ac mae disgwyl y byddwch yn parhau â’ch astudiaethau a gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau’r Diploma Blwyddyn 1 90 Credyd yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig llawn. Oddi yno, mae llwybrau symud ymlaen yn cynnwys Gradd Sylfaen mewn pynciau sy’n gysylltiedig â cheffylau, cymwysterau BHS uwch neu gyflogaeth yn y diwydiant ceffylau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Sylwch nad cwrs ymarferol yn unig yw hwn, mae swm o waith ysgrifenedig wedi ei gynnwys.

Bydd angen chwistrelliad tetanws cyfredol arnoch chi cyn dechrau’r cwrs.

Bydd angen cyfarpar diogelu personol (PPE) arnoch chi ar gyfer agweddau ymarferol y rhaglen gan gynnwys esgidiau marchogaeth, Clôs pen-glin a het farchogaeth i’r safonau diogelwch cyfredol. Bydd angen i chi brynu’r rhain cyn i’r cwrs ddechrau.

Bydd arholiadau BHS yn gost ychwanegol y bydd angen aelodaeth BHS arni hefyd.

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma 90 Credyd mewn Rheoli Ceffylau Lefel 3?

UFDI0309AC
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr