Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg manwl a deinamig ar fyd cynnal a chadw ac atgyweirio beiciau modur. Bydd angen i chi fod â diddordeb brwd mewn beiciau modur a bod yn dda am ddatrys problemau. Bydd angen awydd arnoch i weithio yn y diwydiant cerbydau modur neu i gynnal eich beiciau eich hun a gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn beiciau modur
... Rydych yn gallu datrys problemau’n dda ac yn gweithio'n galed
Mae’r cwrs hwn yn cael ei arnodi fel tystysgrif dechnegol ac mae wedi cael ei ddylunio i fodloni elfen ddamcaniaethol yr VCQ 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur. Mae hefyd yn bodloni gofynion y fframwaith Brentisiaeth.
Mae 11 modiwl i’w cwblhau, sy’n cynnwys yr holl fodiwlau Lefel 1 ac unedau mwy manwl. Mae o leiaf hanner y cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol ar feiciau modur.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs, profion ysgrifenedig a thasgau ymarferol, ac ar ôl ei gwblhau byddwch wedi cyflawni: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2
I astudio ar y cwrs hwn, bydd angen cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, gradd C, cymhwyster Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau neu brofiad cyfatebol mewn cynnal a chadw beiciau modur ar lefel sylfaenol.
Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hystyried yn unigol ar sail sgiliau a phrofiad.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu mynd yn eich blaen i gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth ac Atgyweirio Beiciau Modur
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.