En

City & Guilds Diploma mewn Gofal Ceffylau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Byddwch yn astudio unedau craidd ac opsiynol megis ymdrin â cheffylau a gofal, bwydo a dyfrio rheolaidd, profiad gwaith, cyflwyniad i wyddor ceffylau a marchogaeth ar y gwastad a thros ffensiau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych eisiau cyfoethogi eich gwybodaeth am ofal ceffylau

... Rydych eisiau cyfuniad o ddysgu ymarferol a damcaniaethol

... Rydych eisiau gwella eich gwybodaeth am y diwydiant ceffylau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi hyfforddi ar gyfer a sefyll arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS). Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sgiliau hanfodol fel cyfathrebu a chymhwyso rhif i sicrhau y byddwch yn datblygu sgiliau i symud ymlaen.

Byddwch yn cael budd o’r cyfleusterau ardderchog yn y ganolfan geffylau sy’n ganolfan arholi wedi’i chymeradwyo gan BHS hyd at lefel hyfforddwr canolig. Mae’n uned gryno, gyda chyfarpar da ar gyfer ceffylau, gan gynnwys iard stabl sy’n lletya hyd at 15 ceffyl i chi eu defnyddio ar gyfer eich sesiynau marchogaeth a sesiynau ymarferol. Mae dau arwyneb modern maint llawn ar gyfer pob tywydd, un ohonynt o dan do, neidiadau sioe, ardal hyfforddi draws gwlad a chaeau pori.

Mae’r ganolfan wedi ei staffio gan dîm profiadol, wedi eu cymhwyso’n dda sy’n eich goruchwylio a’ch cefnogi wrth ymgymryd â dyletswyddau iard a phrofiad gwaith. Wrth weithio yn iard y coleg bydd eich dealltwriaeth o ofal ceffylau yn ehangu.

Mae’r cwrs yn cael ei asesu trwy asesu ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig i ddangos eich dealltwriaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn ennill:

  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Astudiaethau’r Tir (Gofal Ceffylau)
  • Cymwysterau cefnogi priodol i ehangu eich set sgiliau ac ateb anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, bydd angen isafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Mae angen ymrwymiad llawn at bresenoldeb. Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunangymhelliad ynghyd ag angerdd at astudiaethau ceffyl yw’r rhinweddau hanfodol y disgwyliwn weld yn ein holl ddysgwyr.

Byddwch yn cael eich asesu’n barhaol ac mae disgwyl y byddwch yn parhau â’ch astudiaethau a gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau, cymhwyster BHS lefel uwch neu gyflogaeth yn y diwydiant ceffylau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Sylwch nad cwrs ymarferol yn unig yw hwn, mae swm o waith ysgrifenedig wedi ei gynnwys.

Bydda angen chwistrelliad tetanws cyfredol arnoch chi cyn dechrau’r cwrs.

Bydd angen cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer agweddau ymarferol y rhaglen gan gynnwys esgidiau marchogaeth, clôs pen-glin a het farchogaeth i’r safonau diogelwch cyfredol. Bydd angen i chi brynu’r rhain cyn i’r cwrs ddechrau.

Bydd arholiadau BHS yn gost ychwanegol y mae angen aelodaeth BHS amdani hefyd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Gofal Ceffylau Lefel 2?

UFDI0224AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr