En

City & Guilds Cwrs Sylfaen Gosod Brics Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Os ydych chi eisiau bod yn friciwr mae'r cwrs hwn wedi'i wneud ar eich cyfer chi! Gallwch ddysgu hanfodion gosod brics a sgiliau gwaith brics a gwaith daear sylfaenol yn ein gweithdai pwrpasol, fel y gallwch ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa fel gosodwr brics

... Rhai sydd â diddordeb brwd mewn adeiladu

... Rhai sydd eisiau cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn gosod brics.

Byddwch yn astudio unedau mewn:

  • Yr amgylchedd adeiledig

  • Cyflwyniad i’r crefftau

  • Cylchred bywyd amgylcheddau adeiledig

  • Cyflogadwyedd

  • Iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladu

  • Technolegau Datblygol

  • Gweithio gyda Briciau, Blociau a cherrig
  • Gweithrediadau Adeiladu  

Asesir y cwrs trwy brosiectau ymarferol a phrofion ysgrifenedig ac ar-lein. Un wedi'i gwblhau, eich cymwysterau fydd:

  • Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn Gosod Brics

  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydiant

  • Gweithgareddau Sgiliau

  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/ Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Dilyniant Lefel 2 mewn Gosod Brics, Prentisiaeth neu gyflogaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud asesiad y diwydiant adeiladu er mwyn helpu i ddewis y cwrs mwyaf addas ar eich cyfer.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Cwrs Sylfaen Gosod Brics Lefel 2?

NFDI0376AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr