En

Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin sgiliau technegol i ddod â'ch syniadau yn fyw a chreu'r genhedlaeth nesaf o gemau cyfrifiadurol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn greadigol
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dylunio gemau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae chwaraewyr gemau heddiw yn disgwyl datblygiadau gemau a chelf gemau realistig a llawn dychymyg 2D/3D. Byddwch yn edrych ar gefndir chwarae gemau ac yn astudio agweddau gwahanol sy'n effeithio ar chwarae gemau, gan gynnwys cysyniadau, dyluniad a defnydd. Yn ogystal â datblygu gwybodaeth dechnegol, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu dawn greadigol a sgiliau proffesiynol i roi i chi'r cyfle gorau o lwyddo yn y farchnad gemau cyfrifiadur. Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu gydag arbenigwyr gemau cyfrifiadur i ddarparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer y diwydiant.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen TGAU Gradd C neu uwch mewn tri phwnc, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth), ag o leiaf un o'r canlynol:

  • Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Teilyngdod/Teilyngdod
  • Graddau DD ar Safon Uwch
  • Graddau DE ar Safon Uwch, gyda gradd C mewn Bagloriaeth Cymru
  • Mynediad at Addysg Uwch lle rydych wedi cael Diploma gyda 45 'llwyddo'

Efallai y bydd gofyn hefyd i chi fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn sesiwn weithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Wedi i chi gwblhau'r radd sylfaen, bydd cyfle i chi fynd ymlaen i BA (Anrh) Celf Gemau, lle byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn maes penodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Efallai y bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn sesiwn weithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

Y cod UCAS yw: 8C27

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau?

CFDG0049AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr