Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
24 Medi 2025
Gofynion Mynediad
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr rhwng 18 a 21 oed feddu ar isafswm o 3 chymhwyster TGAU (gradd C neu uwch) sy’n cynnwys Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth. Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 megis Diploma Cenedlaethol BTEC neu Safon Uwch sy’n gyfwerth neu’n uwch na 48 o bwyntiau UCAS.
Cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
Croesawir myfyrwyr hŷn (21 oed +) ac ymdrinnir ag ymgeiswyr ar sail unigol. Er nad oes angen meddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc ac awydd ymrwymedig i ddysgu yn hanfodol.
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau ymarferol, gwybodaeth arbenigol a phrofiad gwaith i’ch helpu i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant Rheoli Anifeiliaid.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi’n gweithio’n barod yn y diwydiant ac yn dymuno cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa
... Neu rydych chi ond yn dechrau eich bywyd proffesiynol
... Oes eisiau cymysgedd o astudio academaidd, dysgu yn seiliedig ar waith a datblygu sgiliau arnoch chi
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn astudio llawer o agweddau ar ofal a lles anifeiliaid, o anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad anifeiliaid i feddyginiaeth filfeddygol a maeth anifeiliaid. Bydd eich holl wybodaeth yn cael ei roi ar waith yn y modiwl lleoliad gwaith, lle byddwch yn cynhyrchu portffolio o waith proffesiynol i arddangos y profiad rydych chi wedi ei fagu.
Mae’r cwrs yn ymarferol iawn, felly rydych chi’n cael llawer o brofiad uniongyrchol i ategu ac atgyfnerthu eich darlithoedd ystafell ddosbarth. Mae arbenigwyr o faes gofal anifeiliaid yn cyflwyno darlithoedd gwadd, a byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau addysgol, fforymau trafod a gwaith grwp.
Mae’r modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1
- Anatomeg a Ffisioleg
- Hanfodion Ymddygiad Anifeiliaid
- Maeth Anifeiliaid
- Hwsmonaeth Anifeiliaid
- Sgiliau Astudio Astudiaethau’r Tir
- Egwyddorion Gwyddor Milfeddygol 1
Blwyddyn 2
- Bridio a Geneteg
- Portffolio Lleoliad Gwaith
- Sgiliau Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith
- Bioleg Gadwriaethol
- Lles Anifeiliaid
- Egwyddorion Gwyddor Milfeddygol 2
Bydd asesu yn amrywiol a pharhaol trwy gydol y cwrs dwy flynedd i gynnwys trafodaeth grwp a beirniadaethau, prosiectau ymchwil, portffolios gwaith, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.
Byddwch yn ennill Gradd Sylfaen sy’n cyfateb i’r ddwy flynedd gyntaf o astudio ar raglen radd (Lefel 4 a Lefel 5). Dyfernir hon gan Brifysgol De Cymru, y brifysgol sy’n achredu.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Cynhelir amserlen arferol y cwrs hwn dros ddau ddiwrnod llawn yr wythnos a disgwylir i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwil annibynnol. Yn ogystal â hyn, bydd modiwl lleoliad gwaith a bydd gofyn i’r myfyriwr ddod o hyd i’w leoliad(au) gwaith ei hun. Bydd cymorth ac arweiniad gan diwtor ar gael os bydd ei angen.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl y cwrs hwn bydd gennych y swm cywir o wybodaeth arbenigol a sgiliau ymarferol i weithio ar y tir. Os ydych chi’n dymuno gwneud rhagor o astudio academaidd, gallech ddewis i uwchraddio’r Radd Sylfaen hon i BSc llawn (Anrh) mewn Iechyd a lles Anifeiliaid, wrth gwblhau'r cwrs uwchraddio ychwanegol am flwyddyn. Fel arall, gallwch drosglwyddo i gwrs gradd mewn pwnc cysylltiedig sy’n cael ei gynnig gan brifysgolion eraill yn amodol arnoch yn bodloni eu gofynion mynediad penodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angenPPE (Cyfarpar Diogelu Personol) ar gyfer agweddau ymarferol y rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys cot labordy wen, cit dyraniad ac esgidiau baw bodiau traed dur. Bydd angen i chi brynu’r cyfarpar hwn ar ddechrau’r rhaglen.
Argymhellir chwistrelliad tetanws cyfredol cyn dechrau’r cwrs.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
UFDG0030AB
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 24 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr