En

EAL Diploma Atodol mewn Technolegau Peirianneg (Saernio a Weldio) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Peirianneg/Weldio Lefel 2 addas gyda Gradd A*-C mewn Mathemateg TGAU.

Yn gryno

Mae'r cwrs yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol ar gyfer amrywiaeth o swyddi o fewn saernïo a weldio. Mae wedi ei strwythuro o amgylch fframwaith y brentisiaeth lefel 3 mewn Peirianneg.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am Weldio a Saernïo

... Rydych yn chwilio am brentisiaeth mewn Weldio a Saernïo

... Mae gennych ddealltwriaeth sylfaenol o Weldio a Saernïo ac eisiau ei ddatblygu at lefel uwch

... Hoffech ddechrau gyrfa mewn weldio a saernïo.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Ar gyfer y Diploma hwn, byddwch yn astudio pum uned:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Egwyddorion Weldio a Saernïo
  • Weldio arc metel â llaw (MMA)
  • Weldio arc metel â llaw (MMA)
  • Proses weldio nwy anadweithiol Twgsten (TIG)

Yn ogystal, byddwch yn ymdrin â 2 uned NVQ ymarferol.

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o ddulliau yn cynnwys:

  • Gweithgareddau gweithdai ymarferol
  • Profion ysgrifenedig byr
  • Arholiadau amlddewis ar-lein

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, ac yn cael cyfle i ail-sefyll TGAU Mathemateg/Saesneg lle fo'n briodol.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:

  • Cymhwyster Peirianneg/Weldio Lefel 2 addas gyda Gradd A*-C mewn Mathemateg TGAU.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm. Dylech hefyd fod yn awyddus iawn i weithio yn y diwydiant peirianneg, cydymffurfio ag ethos y coleg a bod yn barod i wella eich lefel o bynciau academaidd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i arwain dysgwyr tuag at brentisiaeth mewn saernïo a weldio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, sy'n costio oddeutu £40. Byddwch hefyd angen eich offer ysgrifennu a ffolderi eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Diploma Atodol mewn Technolegau Peirianneg (Saernio a Weldio) Lefel 3?

NFDI0287AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr