En

EAL NVQ Diploma PEO (Saernïo a Weldio) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£255.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
16 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun i Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
30 wythnos

Yn gryno

Os ydych yn gweithio yn y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu, bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth saernïo a weldio gwell i chi, drwy ymdrin ag ystod o dechnegau weldio a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi i chi dealltwriaeth drylwyr o'r prosesau weldio a'u defnydd, a'r offer, y deunyddiau a'r nwyddau traul a ddefnyddir.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sy'n gweithio ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin â'r prosesau weldio Metal Active/Inert Gas Shielding (MAGS/MIGS), Manual Metal Arc (MMA), Tungsten Active/Inert Gas Shielding (TAGS/TIGS) ac Oxy-Fuel Burning, a bydd angen i chi gwblhau ystod o uniadau wedi'u weldio mewn safleoedd weldio amrywiol i'r safon weldio BSEN 4872. Bydd yr uniadau wedi'u weldio hyn yna'n mynd drwy brofion dinistriol amrywiol cyn cael eu hasesu'n weledol gan yr asesydd.

Bydd angen i chi adnabod diffygion weldio sylfaenol, gan ddangos sut i adfer ac atal unrhyw namau a all godi, ac addasu a phennu'r amodau ar gyfer weldio yn unol â manylebau perthnasol a gweithdrefnau weldio.

Bydd angen i chi hefyd baratoi ar gyfer weldio drwy gael gafael ar y cyfarwyddiadau angenrheidiol i'r swydd, deunyddiau, offer, cyfarpar ac unrhyw ddogfennaeth, a gwirio ac archwilio'r cyfarpar weldio i wneud yn siwr ei fod mewn cyflwr gweithio diogel ac yn addas ar gyfer ymgymryd â gwaith weldio.

Wedi i chi gwblhau'r cwrs hwn, gallech fynd ymlaen i Ddyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Weldio Uwch.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi gael cymhwyster Lefel 1 mewn Saernïo a Weldio, Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio Uwch, ac o leiaf 2 blynedd o brofiad yn y diwydiant o'r prosesau weldio dethol neu gyfweliad i asesu eich sgiliau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun (esgidiau dur trwm ac oferôls o ddeunydd gwrthdan).

Ble alla i astudio EAL NVQ Diploma PEO (Saernïo a Weldio) Lefel 2?

NEDI0216ZZ
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 16 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr