En

Baglor yn y Celfyddydau – Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Yn gryno

Anelir y cymhwyster BA mewn Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon at fyfyrwyr sydd am ganolbwyntio ar gynhyrchu sain ac ysgrifennu caneuon.

 

Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth o gyfansoddi ac ysgrifennu caneuon i gynhyrchu mewn stiwdio a chyfansoddi a sain ar gyfer ffilmiau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi'n angerddol dros gerddoriaeth boblogaidd

... Ydych chi’n chwilio am gwrs ymarferol i roi profiad i chi

... Ydych chi am ennill cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn a chymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid sy'n ymweld.

Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy i helpu i ddysgwyr symud ymlaen mewn eu dewis o faes cerdd.

Byddwch yn dod yn raddedig a fydd yn gwella'r sin gerddoriaeth yng Nghymru, gan gyfrannu ag amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau.

Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Cynhyrchu yn y Stiwdio : Hyfedredd Technegol yn y stiwdio.

Ysgrifennu Caneuon : Datblygu sgiliau a thechnegau ysgrifennu caneuon.

Cyfansoddi a Sain ar gyfer Ffilmiau : Datblygu sgiliau Cyfansoddi / Sain Foleyar gyfer Ffilmiau.

Y Cydweithredwr Cerddoriaeth : Datblygu sgiliau cydweithio a rhwydweithio.

Byddwch yn defnyddio ein stiwdios recordio o’r radd flaenaf sy’n cynnwys desg Audient HE8024, ystod lawn o ficroffonau Neumann gan gynnwys recordio deuglust pen dymi.

Mae ein hystafell ôl-gynhyrchu yn cynnwys ystafell sain Foley gyda galluoedd ‘sain i lun’ llawn, cyfleusterau DAW o ansawdd uchel a dewis helaeth o offerynnau cerddoriaeth electronig analog.

Mae ein stiwdios hefyd yn cynnwys consol cymysgu sgrin gyffwrdd Steven Slate Raven MTI2.

Mae ein dewis o bennau a chabiau seinchwyddwr yn cynnwys Soldano slo 100w, Vox AC30 a Marshall JCM 900.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae'r meini prawf mynediad isod yn dangos yr ystod o gymwysterau y bydd y Brifysgol yn gwneud cynigion o fewn iddynt. Mae’r rhan fwyaf o gynigion a wnawn ar frig yr ystod, ond rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mi fydd 

ymgeiswyr yn derbyn cynnig personol.

Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol a gall cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma fod yn dderbyniol hefyd.

Cynnig Safon Uwch arferol:

BCC (mae hyn yn cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS)

Clirio : CDD (mae hyn yn cyfateb i 80 pwynt tariff UCAS)

Cynnig BTEC arferol:

Diploma Estynedig BTEC - Teilyngdod: Rhagoriaeth (mae hyn yn cyfateb i 112 pwynt tariff UCAS)

Clirio : Tocyn Teilyngdod (mae hyn yn cyfateb i 80 pwynt tariff UCAS)

Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol:

BC mewn Safonau Uwch ac C mewn Bagloriaeth Cymru (cyfwerth â 104 pwynt tariff UCAS).

Clirio : CD mewn Safonau Uwch ac C mewn Bagloriaeth Cymru (cyfwerth â 80 pwynt tariff UCAS).

Cynnig Arferol Mynediad i AU:

Gradd pasio gyda 15 Rhagoriaeth, 21 Teilyngdod a 9 gradd pasio arall. Cyfuniadau eraill sy'n cyfateb i'r un lefel

Mae pwyntiau tariff UCAS hefyd yn dderbyniol (102 pwynt tariff UCAS).

Gofynion TGAU:

Pum TGAU ar radd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gymwysterau cyfwerth), ond ystyrir amgylchiadau unigol.

Sylwch, os nad ydych yn bodloni meini prawf y radd, yna efallai y bydd modd ystyried oedran a phrofiad.

Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Llwybr Dilyniant:

Msc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru

MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu ym Mhrifysgol De Cymru

Peirianneg Stiwdio

BBC (rolau amrywiol)

ÔL-Gynhyrchu

Cyfansoddwr Caneuon Llawrydd

Peiriannydd Sain Llawrydd

Cyfansoddi ar gyfer Ffilmiau

Cerddoriaeth Llyfrgell

Ble alla i astudio Baglor yn y Celfyddydau – Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon?

CFDA0003AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr