Yn gryno
A ydych chi erioed wedi codi carreg fach o’r traeth, wedi darganfod darn o wydr môr, wedi gweld gem led-werthfawr neu grisial ac wedi meddwl...rwy’n hoffi hwn ond beth wna i ag o? Peidiwch â’u cadw ar silff - trowch nhw yn ddarnau unigryw o emwaith wedi’u rhwymo â gwifrau!
Ymunwch â ni am gwrs 5 wythnos hwyliog ac ysbrydoledig. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau ar ffurf gweithdy, a fydd yn eich cyflwyno i hanfodion rhwymo â gwifrau. Unwaith bydd y wybodaeth a’r technegau sylfaenol gennych, byddwch yn cael eich annog i ddylunio a chreu eich darn eich hun o emwaith unigryw gan ddefnyddio’r trysorau rydych wedi eu darganfod.
...dechreuwyr pur sydd ddim wedi gwneud gemwaith o’r blaen
... unrhyw un sydd eisiau dysgu rhywbeth newydd
...pobl greadigol sy’n chwilio am hobi creadigol
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i feysydd allweddol gemwaith wedi’i rwymo â gwifrau:
- Hanfodion trin gwifren
- Gwehyddu gwifrau
- Rhwymo cerrig/gleiniau
Erbyn diwedd y cwrs, dylech deimlo'n ddigon hyderus i allu defnyddio'r technegau a ddysgoch i ymestyn eich taith greadigol gyda’ch gemwaith - eich dychymyg yn unig sy’n eich cyfyngu!
Darperir yr holl offer angenrheidiol ynghyd â nifer gyfyngedig o wifrau ac ystod o leiniau/cerrig i ymarfer y technegau sylfaenol.
Bydd angen i chi brynu gwifrau a gleiniau/cerrig ychwanegol er mwyn cwblhau eich dyluniadau eich hun.
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
- Tecstilau
- Cerameg
- Gwneud Printiau
- Ffotograffiaeth
- Argraffu 3D
- Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
- Sgiliau DJ
- Celfyddydau Perfformio
- Canu ar gyfer Pleser
- Ysgrifennu Creadigol
- Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
- Gwneud Gemwaith
- Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
- Lansio Menter/Busnes Creadigol
Bydd yr holl wifrau ac offer yn cael eu darparu. Bydd angen i chi ddod â dewis o fwclis 6mm a 4mm yn ogystal â’ch eitemau eich hun i lapio weiren o’u cwmpas. Er enghraifft - cerrig lliwgar lled-werthfawr, gwydr môr, cerrig bychain, cregyn.