Yn gryno
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y ffasiwn ddiweddaraf mewn gwnïo gartref ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Dyma'r cwrs gwnïo perffaith i ddechreuwyr neu ddysgwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth sylfaenol o greu dillad i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Dysgwch sut i wneud eich dillad eich hun, sut i ddarllen patrwm masnachol, dewis y defnydd cywir a pherffeithio'r technegau adeiladu hynny.
...unrhyw un sydd am ddysgu sgiliau gwnïo neu wella eu sgiliau presennol
...rheiny sydd eisiau datblygu eu hyder wrth wnïo
...pobl sydd eisiau dysgu technegau ar gyfer gorffeniadau proffesiynol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymdrin â sawl agwedd ar baratoi, y patrwm masnachol, creu dillad ac offer a chyfarpar angenrheidiol.
Dyma rai o'r meysydd y byddwn yn dod ar eu traws:
- Adnabod eich peiriant gwnïo
- Sut i ddefnyddio'r defnydd a'r cynllun 'cywir' wrth baratoi i dorri
- Meistroli'r technegau – sipiau, coleri, llewys, pocedi a llawer mwy
- Sut i gwblhau prosiect 'hwnnw' a sicrhau ei fod yn ffitio!
Gallwn ymdrin ag unrhyw sgiliau sydd eu hangen i gwblhau dilledyn. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond cam wrth gam byddwch yn llunio eich dilledyn ac yn ei addasu i ffitio yn ôl yr angen!
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro o amgylch prosiect gwnïo cyflawn wrth ddysgu'r technegau cywir i gyflawni gorffeniad proffesiynol. Mewn amgylchedd cyfeillgar, cewch adborth gan y tiwtor a chyfoedion yn rheolaidd.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
- Tecstilau
- Cerameg
- Gwneud Printiau
- Ffotograffiaeth
- Argraffu 3D
- Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
- Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
- Celfyddydau Perfformio
- Canu ar gyfer Pleser
- Ysgrifennu Creadigol
- Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
- Gwneud Gemwaith
- Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
- Lansio Menter/Busnes Creadigol
Bydd angen i chi brynu un patrwm masnachol ar gyfer dilledyn syml a digon o ddefnydd i'w gwblhau. Gellir trafod dewisiadau cywir yn ystod cam cychwynnol y cwrs.
Mae gan yr ardal weithio’r holl offer a pheiriannau angenrheidiol, er mae’n bosibl y byddwch eisiau defnyddio eich sisyrnau ac ati eich hunain.