Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi arbrofi â deunyddiau, technegau a phrosesau artistiaid a’u harchwilio.
Dechreuwyr neu bobl greadigol â diddordeb brwd mewn ehangu eu creadigrwydd.
Cyflwynir y cwrs hwn drwy wersi wythnosol gyda’r hwyr a phob wythnos cewch gyfle i ehangu eich profiadau drwy gelf a dylunio. Mae’r cwrs yn arbrofol gan addasu i gyd-fynd â’ch awydd creadigol.
Gallwn archwilio technegau a phrosesau gwahanol artistiaid megis darlunio trwy arsylwi, collage a stensilio, llythrennu, britho, argraffu torluniau pren a gwasg argraffu.
Gallwn gymryd rhan mewn cyfres o weithdai arbrofol e.e. darlunio, paentio, clai, tecstiliau neu grefft gwaith metel creadigol.
Erbyn diwedd y cwrs 10 wythnos hwn, dylech chi deimlo’n hyderus ac yn gallu defnyddio’r technegau a ddysgwyd yn ystod y cwrs i ymestyn eich diddordeb ym maes celf a dylunio.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol i astudio ar y cwrs hwn.
Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr pur a’r rhai â rhywfaint o brofiad o ran celf draddodiadol a chreu creadigol.
Yng ngeiriau Leonardo Da Vinci, “Nid yw celf byth wedi’i gorffen, dim ond wedi’i gadael”.
Yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol, rydym hefyd yn cynnig cwrs rhan-amser gyda’r hwyr mewn Adobe Photoshop.