Yn gryno
Cwrs therapi uwch yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer Therapyddion Harddwch Lefel 3 sy’n dymuno ehangu eu cynnig o driniaethau.
... y rheini sy’n gymwys hyd at Lefel 3 mewn Therapi Harddwch
... y rheini sy'n 18 oed ac yn hŷn
... os ydych chi am ehangu eich portffolio o driniaethau
... os ydych chi'n meddu ar ddiddordeb mewn estheteg anfeddygol
Byddwch yn dysgu am y pynciau canlynol wrth ddilyn y cwrs
- Ymgynghori estheteg uwch
- Moeseg estheteg uwch
- Gwyddor Croen
- Triniaethau Nodwyddo Croen Cosmetig
- Triniaethau Plicio Croen
- Dermaplanio (Dermaplaning)
- Amledd Radio
I ennill y cymwysterau hyn, rhaid i chi gyflawni'r asesiadau canlynol:
- Portffolio o Dystiolaeth
- Astudiaethau Achos ac Aseiniadau (bydd gofyn i chi ddarparu cleientiaid ar gyfer astudiaethau achos)
- Arholiadau allanol - ysgrifenedig ac ymarferol
Caiff y tystysgrifau hyn eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Rhagoriaeth, a neilltuir tiwtor personol i chi ar gyfer y cwrs i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad personol ac academaidd.
Gallwch symud ymlaen i gyflogaeth neu i gyrsiau Lefel 5 mewn Estheteg.
- Cymhwyster lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth
- 18 oed neu'n hŷn
- Cynhelir cyfweliad mynediad gydag arweinydd y cwrs i gadarnhau eich bod ar y cwrs iawn - byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi gyflwyno eich cais i drefnu diwrnod ac amser addas.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig lawn gydag esgidiau addas a bodloni disgwyliadau'r sefydliad dyfarnu. Mae presenoldeb ym mhob gwers yn hanfodol.
Mae'r ffioedd cwrs yn cynnwys cofrestriad VTCT a gellir naill ai eu talu'n llawn ar ddechrau'r cwrs neu dros 5 rhandaliad misol. Trefnir hyn gyda chi ar adeg ymgeisio a chofrestru.