Yn gryno
Mae hwn yn gwrs blwyddyn, llawn amser, ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno elwa o gael cyflwyniad cyffredinol i egwyddorion ac arferion technolegau peirianneg. Nod y cwrs yw cyfarparu myfyrwyr gyda’r hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol er mwyn cwblhau’r Diploma Lefel 1 mewn Technolegau Peirianneg.
Dyma gymhwyster galwedigaethol sydd wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu ar lefel uwch o astudiaeth ac er mwyn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector peirianneg.
... mae gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector peirianneg.
... rydych eisiau creu cynnyrch mewn gweithdy peirianneg fecanyddol.
... rydych eisiau dysgu am gydrannau electronig sylfaenol a'u swyddogaeth mewn cylched.
... rydych eisiau lefel sylfaenol o ddealltwriaeth am gynnal a chadw mecanyddol ac ymarfer gweithdy.
... rydych eisiau lefel sylfaenol o ddealltwriaeth am adeiladu cylched electronig a gosodiadau trydanol.
... rydych eisiau ennill gwybodaeth sylfaenol am gynllunio prosiectau a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAM).
... rydych eisiau ennill sgiliau sylfaenol wrth ddefnyddio meddalwedd lluniadu â chymorth cyfrifiadur (CAD).
… you want to gain some fundamental skills in the use of computer aided drawing (CAD).
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gwblhau ystod o unedau gorfodol ac unedau dewisol, gan gynnwys:
- Uned 1: Cyflwyniad i Weithio mewn Peirianneg (uned orfodol)
- Uned 2: Cyflwyniad i Beiriannu Deunyddiau Peirianneg
- Uned 5: Cyflwyniad i Electroneg
- Uned 6: Cyflwyniad i Osodiadau Trydanol
- Uned 7: Cyflwyniad i Gynnal a Chadw Mecanyddol a Thrydanol
- Uned 13: Cyflwyniad i Wyddoniaeth a Mathemateg Sylfaenol a ddefnyddir mewn Peirianneg
- Uned 15: Cyflwyniad i Feddalwedd Lluniadu â Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Uned 16: Cyflwyniad i Weithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAM)
- Uned 17: Cyflwyniad i Gynllunio Prosiectau Peirianneg
Dulliau Astudio
Darllen testun, darlithoedd, cymryd nodiadau yn y dosbarth, sesiynau ymarferol, defnyddio TGCh a’n llwyfan dysgu digidol – Canvas.
Sut asesir y cwrs?
Caiff Uned 1 (uned orfodol) ei hasesu drwy arholiad allanol ar-lein. Caiff yr holl unedau eraill eu hasesu drwy brofion ymarferol a gwybodaeth wedi’u marcio gan ddarlithwyr
Ar gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:
- Diploma EAL Lefel 1 mewn Technolegau Peirianneg
- Mathemateg a Saesneg
- Gweithgareddau Sgiliau
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
To enter the course, you’ll need a minimum of 4 GCSEs, Grade D in Maths and English/Welsh First Language and two other grade E GCSEs which must include Science, or an appropriate Entry Level qualification.
Bydd angen ichi fod yn rhifog ac yn greadigol, ynghyd â meddu ar ddiddordeb ysol mewn peirianneg. Hefyd, disgwyliwn ichi feddu ar hunangymhelliant, ynghyd â bod yn weithgar, yn brydlon ac yn llawn ymrwymiad.
- Astudiwch ar gyfer cymhwyster Lefel 2 City & Guilds neu BTEC yn y peirianneg.
- Gyrfa mewn peirianneg. Mae swyddi nodweddiadol yn cynnwys: Gosodwr Mecanyddol, Technegydd Electronig/Trydanol, gweithredwr CNC, Gwneuthurwr Offer neu Osodwr/Tröwr.
- Gall y cymhwyster hwyluso dilyniant at ystod o Brentisiaethau Peirianneg neu gyflogaeth berthnasol.
O leiaf 4 TGAU gradd E neu uwch, gan gynnwys gradd D mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes a chwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac ymagwedd gadarnhaol at waith.
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
 
                                                                                 
                                                                                 
                                                                                 
                                                                                 
                                                                                 
                 
         
                                         
                                        