Yn gryno
Mae ein cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i'r maes astudio sydd o ddiddordeb i chi a'ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
... nad ydych yn siwr beth yr ydych eisiau ei wneud
... ydych eisiau mynd ymlaen i astudio cyrsiau ar y lefel nesaf, prentisiaeth neu waith
... Ydych chi’n dymuno datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy
Byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar fwy nag un maes galwedigaethol a chael cipolwg ar fywyd yn y coleg. Byddwch yn cwblhau tasgau sy'n canolbwyntio ar ddangos yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu.
Mae’r unedau craidd yr un fath ar gyfer pob cwrs Astudio Galwedigaethol, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes galwedigaethol yr ydych wedi’i ddewis. Os byddwch angen newid i gwrs gwahanol, pe bai angen gallwch drosglwyddo’r unedau yr ydych wedi’u hastudio ar y cwrs hwn i’r cwrs nesaf.
Dyma'r unedau craidd:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Gall yr unedau TGCh a Busnes gynnwys:
- Datblygu gwybodaeth ddigidol trwy ddefnyddio TG
- Defnyddio technolegau cyfathrebu digidol
- Creu taenlen i ddatrys problemau
- Creu gwefan
- Trefnu cyfarfod
- Brandio cynnyrch
- Cyflwyno syniad busnes
- Cyfrannu at redeg digwyddiad
- Cofnodi incwm ac alldro
- Cyfathrebu â chwsmeriaid
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol a byddwch yn cyflawni:
- Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
- Gallech barhau eich astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
- Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
- Gallech gael swydd yn eich dewis faes
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Disgwylir i chi brynu cit i sicrhau eich diogelwch wrth gyflawni’r elfennau ymarferol. Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.