En

BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond mae angen i chi ddangos ymrwymiad ac awydd i weithio o fewn y sector. Mae empathi, dibynadwyedd, prydlondeb a set sgiliau garedig a chefnogol yn hanfodol.

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn paratoi dysgwyr i ddilyn cwrs Lefel 2. Mae'r cwrs yn cael ei asesu'n barhaus, ac mae'n ymdrin ag amrywiaeth o unedau craidd sydd wedi'u dylunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a chyfathrebu, ynghyd ag unedau opsiynol mewn Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o asesiadau. Ar hyn o bryd does dim arholiadau ynghlwm â'r cwrs.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych eisiau symud ymlaen at astudiaeth bellach mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant

...rydych eisiau datblygu sgiliau cyflogadwyedd

...rydych eisiau datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cymhwyster BTEC hwn yn datblygu'r wybodaeth sydd ei hangen mewn swyddi a chyfleoedd o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant. Bydd dysgwyr yn gwneud unedau craidd ac opsiynol (10 uned i gyd).

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu cyflogadwyedd, llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu a gweithio mewn tîm i baratoi dysgwyr i symud ymlaen i'r lefel nesaf.

 

Byddwch yn dysgu drwy waith grwp a dysgu yn y dosbarth.

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau, gweithgareddau grwp ac unigol i gefnogi eich cynnydd a'ch dysgu.

Bydd dysgwyr hefyd yn parhau i astudio Mathemateg a Saesneg.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Mae'n rhaid i ddysgwyr arddangos ymrwymiad llawn (presenoldeb) i bob agwedd ar y cwrs yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Byddwch angen dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc, y gallu i gymell eich hun ac angerdd tuag at y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyfle i symud ymlaen at raglen Lefel 2. Os ydych eisiau symud ymlaen at Raglen Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd angen gradd MM arnoch chi, yn ogystal ag ymgysylltiad a chynnydd mewn sgiliau (Mathemateg a Saesneg).

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Rhaid i ddysgwyr ddangos ymrwymiad llawn (presenoldeb) i bob agwedd ar y cwrs gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunan-gymhelliant ac angerdd dros y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1?

NFBD0047AC
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr