Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ymarferol dros ben ac mae wedi’i arwain gan ddarlithwyr ac athrawon cyswllt a hyfforddwyd yn broffesiynol. Diben y cwrs yw datblygu’r sgiliau actio ar gyfer y llwyfan, y sgrin, radio a throsleisio. Byddwch chi’n cwblhau’r cwrs gan feddu ar ystod o ddeunydd cymhwyso sy’n addas ar gyfer astudiaethau Addysg Bellach neu astudiaethau conservatoire yn ogystal â sgiliau academaidd ac ymchwil perthnasol ar safon Lefel 3.
...rydych chi’n symud o gwrs lefel TGAU neu o gwrs Lefel 2 perthnasol
...rydych chi’n mwynhau actio i’r camera, actio ar y llwyfan, ysgrifennu a dyfeisio sgriptiau, perfformio llais a radio neu wylio theatr fyw a sioeau cerdd.
Mae’r aseiniadau yn seiliedig ar ymarfer a bydd y gwaith ysgrifenedig yn sail i’r sgiliau sy’n cael eu datblygu fel myfyriwr y celfyddydau perfformio. Bydd ymchwilio i bynciau ac ymarferwyr presennol a hanesyddol yn helpu i ffurfio eich perfformiadau a ddyfeisiwyd a’ch perfformiadau a gyfarwyddwyd.
Fel rhan o’ch cwrs, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ystod o berfformiadau yn ystod y flwyddyn megis:
- Dramâu
- Dangosiadau ffilmiau
- Darnau a ddyfeisiwyd
- Ymsonau
- Ystod o ddigwyddiadau allgyrsiol gan gwmnïau perfformio
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys theatr bwrpasol, stiwdio ddrama, stiwdio ddawns ac ardal ymarfer. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwibdeithiau i wylio perfformiadau, cymryd rhan mewn gweithdai a gwrando ar siaradwyr yn rheolaidd. Caiff y cwrs hwn ei asesu’n barhaus trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiadau a phortffolios gwaith. Ar gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:
- Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs yma, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod a TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Mae diddordeb brwd yn y celfyddydau perfformiadol a pharodrwydd i ymarfer y tu allan i amser coleg yn hanfodol. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Bydd llwyddo i gwblhau Blwyddyn 1 o’r Diploma sy’n werth 90 credyd yn galluogi dysgwyr i symud i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig cyflawn.
Ar ôl hynny, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys:
- Cyrsiau Lefel 4 HND a gradd mewn Drama neu Theatr Gerdd
- Cyflogaeth fel perfformiwr neu dechnegydd
- O leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf
neu
- Gymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol gan ennill Gradd Teilyngdod a chymwysterau TGAU, gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.