BTEC Diploma Cenedlaethol 540 mewn Ymarfer Celf a Dylunio Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys TGAU cysylltiedig â chelf, Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Yn gryno

Byddwch yn dysgu i ddangos sut y gellir cyfleu syniadau, teimladau ac ystyrion o fewn y meysydd gwahanol o gelf a dylunio.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych allu mewn maes creadigol
... Oes gennych ddawn greadigol wych
... Ydych eisiau gyrfa yn defnyddio eich sgiliau celf a dylunio

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae celf yn parhau i fod yn opsiwn dymunol i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd creadigol 'traddodiadol', megis pensaernïaeth, cynllunio mewnol neu broffesiynau yn ymwneud â pheintio/celf gain. Fodd bynnag, mae'r rhyngrwyd wedi gweld ffrwydrad o rolau newydd cyffrous yn ymddangos. Os ydych yn serennu ym maes celf, peidiwch â chael eich darbwyllo i gredu y byddai'n well i chi astudio pwnc mwy 'defnyddiol', oni bai eich bod eisiau neu'n dda ynddo. Oes gennych allu mewn maes creadigol, gafaelwch ynddo. Gadewch iddo ddisgleirio,  Mae ganddo werth masnachol gwirioneddol!

Byddwch yn archwilio amrywiaeth o syniadau ac adnoddau perthnasol mewn perthynas â dylunio/dylunio graffeg ac yn cynhyrchu ymatebion ymarferol iddynt, gan arddangos dealltwriaeth o'r arddulliau, genres a thraddodiadau gwahanol. Yn sail i'ch gwaith prosiect fydd llyfrau braslunio/llyfrau gwaith/cyfnodolion, a bydd pwyslais ar luniadu gydag amrywiaeth o gyfryngau.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn arddangos ystyr, swyddogaeth a diben i ddangos ymwybyddiaeth o gynulleidfa neu gyd-destun a fwriedir i'ch dyluniad, gallu i ymateb i broblem, cysyniad neu syniad a gwerthfawrogiad o ddefnydd priodol o lythrennau, arwyddion a symbolau.

Mae tiwtoriaid yn gyfredol ac yn berthnasol wrth iddynt barhau i weithio yn eu meysydd arbenigol eu hunain, a'r ethos proffesiynol hwn a'r profiad galwedigaethol a gewch fydd yn gwneud y gwir wahaniaeth i'ch astudiaethau.

Ar gampysau gwahanol, byddwch yn astudio meysydd opsiynol mewn celf gain a dylunio graffeg. Ymhlith opsiynau celf gain mae lluniadu a pheintio, cerflunio, gosod a gwneud printiau. Defnyddir ffotograffiaeth yn aml i ddogfennu a chofnodi ac fel ffynhonnell weledol o wybodaeth ar gyfer meysydd eraill o astudio.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth gan ddefnyddio rhifau, cynllunio a gwaith tîm.

Mae modiwlau dylunio graffeg yn cynnwys hysbysebu, dylunio pecynnu, graffeg cyfrifiaduron, darlunio, teipograffeg, gwneud printiau, peintio, lluniau a thechnegau'r cyfryngau cymysg gydag astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol.

Byddwch yn cael eich asesu drwy gwblhau gwaith cwrs. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • Celf a Dylunio Lefel 3 - Dylunio Graffeg
  • Gweithgareddau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU, Gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn un ai pwnc TGAU sy'n gysylltiedig â chelf, Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.

Bydd disgwyl hefyd i chi reoli eich amser a bodloni terfynau amser yn effeithlon. Bydd gofyn i chi gyfrannu at drafodaethau dosbarth ac asesiadau o gyfoedion, cymryd rhan mewn prosiectau grwp a go iawn a rhoi cyflwyniadau ffurfiol ac anffurfiol fel rhan o'ch proses asesu.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau Diploma Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.

Wedi hynny, mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:

  • Addysg Uwch, yn ymdrin ag ystod eang o raddau celf/dylunio, neu gyflogaeth o fewn y diwydiannu celf amrywiol megis ffasiwn, dylunio graffeg, cynllunio mewnol a sgiliau creadigol
  • Prentisiaethau
  • Bod yn fos arnoch chi'ch hun - dylunio a gwerthu gwaith sy'n adlewyrchu eich sgiliau creadigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o'r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu cyfweliad adolygu portffolio lle byddwch yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Yn ystod y cyfweliad byddwch yn cyflwyno eich portffolio a llyfrau braslunio i'r tîm cwrs. Dylai eich gwaith arddangos eich gallu i fynegi a datblygu eich syniadau.

Gall ffioedd ar gyfer ymweliadau ag orielau a digwyddiadau fod yn daladwy drwy gydol y flwyddyn ac mae ffioedd stiwdio hefyd yn daladwy.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cenedlaethol 540 mewn Ymarfer Celf a Dylunio Lefel 3?

PFBE0001AB
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr