En

UAL Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu (Theatr Gerddorol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn ymarferol dros ben ac mae wedi’i arwain gan ddarlithwyr ac athrawon cyswllt a hyfforddwyd yn broffesiynol. Diben y cwrs yw datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddod yn berfformiwr perygl triphlyg. Byddwch chi’n cwblhau’r cwrs gan feddu ar ystod o ddeunydd cymhwyso sy’n addas ar gyfer astudiaethau Addysg Bellach neu astudiaethau conservatoire yn ogystal â sgiliau academaidd ac ymchwil perthnasol ar safon Lefel 3. Caiff sgiliau eu datblygu ym mhob un o’r disgyblaethau a bydd gwaith a dargedwyd yn y meysydd y mae angen i chi eu datblygu’r mwyaf.

Fel tîm y cwrs, rydym wedi ymrwymo i bob dysgwr a’i ddilyniant i astudiaethau addysg bellach o’i ddewis a’i baratoi i lywio’r diwydiant hynod gystadleuol hwn. Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau allgyrsiol yn ogystal â gwibdeithiau tramor a gwibdeithiau ar draws y Deyrnas Unedig heb ei hail ac mae rhaglen fywiog ac amrywiol eisoes yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Rydym yn falch iawn o’n cysylltiadau â thimau addysgu conservatoire ledled y Deyrnas Unedig ac, ar adegau yn ystod y flwyddyn, rydym yn croesawu’r arbenigwyr hyn i fentora ein dysgwyr o ran ymarfer a pharatoi ar gyfer clyweliadau.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Rydych chi’n angerddol am ddatblygu eich sgiliau fel perfformiwr.

...Hoffech chi ddatblygu eich aml ddoniau a pharatoi eich hun ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau perfformio a diwydiannau cysylltiedig

...Rydych chi’n frwdfrydig am fod yn greadigol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sy’n symud o ennill cymwysterau ar lefel TGAU neu o gwrs Lefel 2 perthnasol sy’n mwynhau:

  • Dawns - Jazz a Bale
  • Actio ar gyfer y llwyfan a’r sgrin
  • Canu - Cefnogaeth Ensemble & Unawd
  • Perfformiad Theatr Gerddorol
  • Dyfeisio theatr
  • Cynhyrchu
  • Mynychu theatr fyw a sioeau cerdd
  • Paratoi ar gyfer clyweliad
  • Hunan-dâp

Mae’r aseiniadau yn seiliedig ar ymarfer a bydd y gwaith ysgrifenedig yn sail i’r sgiliau sy’n cael eu datblygu fel myfyriwr y celfyddydau perfformio. Bydd ymchwilio i bynciau ac ymarferwyr presennol a hanesyddol yn helpu i ffurfio eich perfformiadau a ddyfeisiwyd a’ch perfformiadau a gyfarwyddwyd.

 

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ystod o berfformiadau yn ystod y flwyddyn megis:

  • Dramâu
  • Dangosiadau ffilmiau
  • Darnau a ddyfeisiwyd
  • Ymsonau
  • Ystod o ddigwyddiadau allgyrsiol gan gwmnïau perfformio

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys theatr bwrpasol, stiwdio ddrama, stiwdio ddawns ac ardal ymarfer. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwibdeithiau i wylio perfformiadau, cymryd rhan mewn gweithdai a gwrando ar siaradwyr yn rheolaidd. Caiff y cwrs hwn ei asesu’n barhaus trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiadau a phortffolios gwaith. Ar gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:

  • Cymhwyster Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs yma, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod  a TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.

Mae diddordeb brwd yn y celfyddydau perfformiadol a pharodrwydd i ymarfer y tu allan i amser coleg yn hanfodol. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd llwyddo i gwblhau Blwyddyn 1 o’r Diploma sy’n werth 90 credyd yn galluogi dysgwyr i symud i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig cyflawn.

Ar ôl hynny, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys:

  • Lefel 4 diploma professiynol mewn Perfformio
  • Cyrsiau gradd mewn Drama, Dawns a Theatr Gerdd mewn prifysgolion neu gonservatoires ·
  • Cyfleodd am gyflogaeth/prentisiaethau yn y diwydiannau creadigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae clyweliad yn ofynnol fel rhan o ofynion mynediad y cwrs.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio UAL Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu (Theatr Gerddorol) Lefel 3?

CFBE0008AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr