• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Gwyddoniaeth
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae tasgau a dyddiadau cau ar y cwrs hwn wedi eu seilio ar ofynion, gweithgareddau a sefyllfaoedd realistig sy’n eich paratoi tuag at ddyfodol mewn Addysg Uwch neu'r gweithle. Rhaglen ddwy flynedd yw hon.

Ymdrinnir ag unedau cemeg, bioleg a ffiseg ac unedau eraill fydd yn cyffwrdd ar sgiliau ymarferol, yn ogystal ag iechyd a diogelwch mewn amgylchedd labordy, gyda digon o gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol.

...rydych eisiau cwrs ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith

...mae gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth

...rydych yn ysu am yrfa mewn maes gwyddonol

...rydych eisiau gweithio o fewn y GIG neu feysydd iechyd neu wyddonol perthnasol

Blwyddyn 1:

  • Uned 1: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth I (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
  • Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (asesiadau mewnol).
  • Uned 3: Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol (asesiadau allanol, arholiadau ym mis Ebrill/Mai fel arfer).
  • Uned 4: Technegau Labordy a'u Defnydd (asesiadau mewnol).

+ 2 uned ychwanegol, ddewisol a ddewisir gan diwtoriaid y cwrs (asesiadau mewnol).

Drwy gwblhau'r cymhwyster ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyflawni Diploma Sylfaen Genedlaethol L3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

Blwyddyn 2:

  • Uned 5: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth II (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
  • Uned 6: Prosiect Ymchwiliol (asesiadau mewnol).
  • Uned 7: Materion Cyfoes Gwyddoniaeth (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).

+ 4 uned ychwanegol, ddewisol a ddewisir gan diwtoriaid y cwrs (asesiadau mewnol).

Byddwch yn dewis unedau yn rhai o feysydd eraill bioleg, cemeg a ffiseg i'ch cefnogi i symud ymlaen i gyrsiau gwyddoniaeth gymhwysol addysg uwch, ac i gysylltu â meysydd galwedigaethol perthnasol. Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc gwyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunan.

O gwblhau'r ail flwyddyn yn llwyddiannus, mae'n bosib y gallech symud ymlaen i wneud HND neu gwrs gradd gwyddoniaeth neu wyddorau biofeddygol.

Cyfleoedd gyrfa yn gweithio mewn labordai gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu.

Bydd arnoch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda chymwysterau TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Darperir yr holl PPE gan y coleg.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBE0003AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFBE0003AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBE0003AB
Amser Dechrau
09:00
Hyd
1 flwyddyn
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Dydd Mawrth i Ddydd Gwener

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy