UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
20 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/Pwnc Creadigol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Wedi ei gymeradwyo gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL), mae'r cwrs 2 flynedd newydd ac arloesol hwn yn eich helpu i ddysgu beth sy'n eich diddori chi fwyaf ym maes celf a dylunio a datblygu rhai o'r sgiliau sylfaenol sy'n sail i'r disgyblaethau creadigol. Bydd yn eich annog i gyfathrebu'n weledol, meddwl yn gysyniadol a datblygu technegau datrys problemau ac ymarferol.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych eisiau archwilio meysydd gwahanol o fewn celf a dylunio
...ydych eisiau ymestyn eich gallu i feddwl yn gysyniadol ac i gyfathrebu'n weledol
...ydych eisiau gyrfa yn y diwydiannau creadigol, fel ffasiwn, celf gain, dylunio neu ffotograffiaeth
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael ag arbenigeddau creadigol gyda phrosiectau cyffrous wedi eu cynllunio i adlewyrchu profiad diwydiant. Byddwch yn cael mynediad at weithdai a stiwdios dylunio gyda'r holl gyfleusterau proffesiynol, ac yn dysgu drwy arbrofi gan ddefnyddio ystod eang o brosesau 2D, 3D a digidol. Bydd prosiectau yn eich helpu i ennill dealltwriaeth gyd-destunol o gelf a dylunio, a'ch cefnogi i wneud a mynegi eich taith bersonol a dehongliadau. Bydd gan eich tiwtoriaid sgiliau, gwybodaeth a phrofiad helaeth o ymarfer diwydiannol ac addysg o fewn y celfyddydau creadigol, a, drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu cysylltiadau a diddordebau personol. Yn ystod tymor 3, byddwch yn ymgymryd â phrosiect y byddwch yn ei ddechrau eich hun ichi adnabod maes diddordeb mwy arbenigol, megis ffasiwn a thecstilau, celf gain, dylunio 3D, ffotograffiaeth neu TG. Byddwch yn cael eich asesu ar eich gwaith cwrs, yn y pen draw yn cyrraedd Lefel 3 Celf a Dylunio, yn ogystal â chymwysterau cynorthwyol priodol i ymestyn eich sgiliau, gweithgareddau sgiliau a Saesneg a Mathemateg.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf ac un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â brwdfrydedd tuag at y pwnc, y gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Wedi i chi gwblhau'r diploma un flwyddyn, gallwch symud ymlaen i'r ail flwyddyn (Estynedig), lle gallwch ganolbwyntio ar arbenigedd o'ch dewis, yn ogystal â gweithio ar draws y cyfryngau a gweithdai a fydd yn eich galluogi i ddewis eich llwybr gyfra creadigol. Wedi ichi gwblhau'r ail flwyddyn, gallwch symud ymlaen at Addysg Uwch, gan gynnwys ein llu o gyrsiau ar lefel Gradd Sylfaen a HND (Uwch Ddiploma Cenedlaethol) mewn Ffasiwn a Thecstilau, Darlunio a Ffotograffiaeth. Rydym hefyd yn arwain drwy broses ymgeisio UCAS i wneud cais am ystod eang o raglenni gradd o fewn y celfyddydau creadigol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym yn eich croesawu i nosweithiau agored a sesiynau blasu (gweler y wefan ar gyfer dyddiadau cyfredol), i brofi gweithdai creadigol ac ymweld â'n hamgylchedd creadigol gyda'r holl gyfleusterau
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBE0001AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 20 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr