Yn gryno
Drwy'r cwrs hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o fewn y sector busnes, ynghyd a sgiliau sy'n gysylltiedig a gwaith ymarferol. Byddwch yn ennill sgiliau trosglwyddadwy allweddol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae'r cwrs hwn yn gyfwerth a phedwar cymhwyster TGAU ar Radd A-C.
... Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am y byd busnes.
... Ydych eisiau dysgu sgiliau newydd ac annog eraill.
... Hoffech fynd ymlaen i gyflogaeth neu Fusnes Lefel 3.
Wrth astudio'r cwrs ysbrydoledig hwn, byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau rydych eu hangen yn y diwydiant hwn i ennill cyflogaeth gyda chyflogwyr lleol neu ddatblygu eich addysg ymhellach.
Byddwch yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o bynciau ac yn edrych ar faterion a thueddiadau presennol o fewn yr amgylchedd busnes i ennill yr wybodaeth fwyaf diweddar. Byddwch yn astudio cyllid, gwasanaeth cwsmer, marchnata a chynllunio ar gyfer busnesau bach, ynghyd a phrofiad gwaith.
Ymhlith y modiwlau mae:
- Mentergarwch yn y byd busnes
- Cyllid ar gyfer Busnes
- Egwyddorion Marchnata
- Busnes Ar-lein
- Cynllunio ar gyfer Busnesau Bach
- Gwerthu a Gwerthu Personol
- Darparu a Gwella Gwasanaeth Cwsmer
- Rheoli Prosiectau
Byddwch yn cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, o weithgareddau ymarferol, asesu cyfoedion, lleoliad gwaith, aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle go iawn, a dau arholiad mewn marchnata a chyllid.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal a pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn rhannu syniadau a gwybodaeth wrth i chi weithio'n annibynnol ac o fewn prosiectau grwp.
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy waith cwrs, a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol, trafodaethau grwp, dadleuon, mynychu lleoliad gwaith, sgiliau cyflwyno, gweithio gydag eraill, yn ogystal ag arholiadau. Mae disgwyl i chi barhau gyda'ch astudiaethau a gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Pa gymwysterau fyddwch yn eu hennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Busnes
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.
Ar ol cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu dilyn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes neu raglen Lefel 3 berthnasol arall.
Gofynion mynediad:
- lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
- NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd D.
Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad bychan tuag at deithiau a gweithgareddau menter.