Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth ragarweiniol o Beirianneg Drydanol a Mecanyddol. Bydd yn cynnig sylfaen gadarn yn yr agweddau allweddol ar beirianneg fodern, a dyma un o’r llwybrau a argymhellir ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gael gyrfa yn y maes peirianneg – maes creadigol ac uchel ei gyflog.
...Ydych eisiau cael cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
Ydych eisiau symud ymlaen at ddiploma estynedig
Hoffech ddilyn prentisiaeth
Mae’r cwrs yn gyfuniad o elfennau yn y labordy ac elfennau damcaniaethol. Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig. Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:
- Gweithio mewn Amgylchedd Peirianneg
- Mathemateg Peirianneg ac Egwyddorion Gwyddoniaeth
- Technegau Gwella Busnes
- Egwyddorion Turnio a Llifanu
- Egwyddorion Trydanol a Thrydan
- Ymarfer Cynnal a Chadw Peirianegol
- Cynllunio a Chynnal Prosiect Peirianneg
- Gweithredu Gweithle Effeithlon
- Cyflwyniad i Gyfathrebu yn ymwneud â Pheirianneg
- Dyfeisiau Electronig a Chymwysiadau Cyfathrebu
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes, ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio, ac asesiadau labordy neu asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
I ddilyn y cwrs hwn, byddwch angen pedwar cymhwyster TGAU fan leiaf, Gradd D neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg Gradd C, neu Ddiploma Lefel 1 priodol mewn Peirianneg a TGAU Mathemateg Gradd C.
Bydd angen ichi fod yn rhifog ac yn greadigol, ynghyd â meddu ar ddiddordeb ysol mewn peirianneg. Hefyd, disgwyliwn ichi feddu ar hunangymhelliant, ynghyd â bod yn weithgar, yn brydlon ac yn llawn ymrwymiad.
Er mwyn ichi allu camu yn eich blaen at Lefel 3, bydd angen ichi sefyll TGAU Haen Uwch ochr yn ochr â’r cwrs hwn er mwyn codi eich gradd i B neu uwch.
- BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol neu Peirianneg Mecanyddol
- Prentisiaeth addas
- Gwaith fel Technegydd Trydanol neu Electronig
O leiaf pedwar TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd C mewn Mathemateg; neu gymhwyster Diploma Peirianneg Lefel 1 priodol a TGAU gradd C mewn Mathemateg.
Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.