Yn gryno
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, dyma'r cwrs i chi. Mae'r cwrs Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn ymdrin â'r tair gwyddor, gan roi gwybodaeth wyddonol arloesol a chyfredol i chi. Bydd yn eich cyflwyno i weithio yn y sector neu eich paratoi tuag at astudiaethau pellach.
...Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwyddoniaeth
...Rydych eisiau datblygu dealltwriaeth bellach
...Rydych eisiau arddull dysgu ymarferol
Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â gwyddoniaeth yn y gweithle, swydd y technegydd neu ymchwilydd gwyddonol. Byddwch yn astudio wyth uned orfodol, a bydd dwy o'r rheiny yn cynnwys arholiadau:
- Egwyddorion gwyddoniaeth (yn cael ei arholi)
- Cemeg a'r ddaear
- Egni a'r bydysawd
- Bioleg a'r amgylchedd
- Cymhwyso sylweddau cemegol
- Cymhwyso'r gwyddorau ffisegol
- Cymhwyso iechyd mewn gwyddoniaeth
- Sgiliau gwyddonol (yn cael ei arholi)
Mae'r cyfuniad yma yn sicrhau eich bod yn ymdrin â phwyntiau allweddol mewn bioleg, cemeg a ffiseg, ynghyd â dealltwriaeth o fyd gwaith galwedigaethau sy'n ymwneud â gwyddoniaeth.
Mae'r cysyniadau allweddol hyn yn ddatblygiad pellach yn yr unedau arbenigol dewisol ac yn drosglwyddadwy i sectorau cyflogedig fel iechyd, gwyddor chwaraeon, gwyddor fforensig a'r diwydiant maetheg. Mae'r unedau hyn yn cynnwys:
- Y corff byw
- Ymchwilio safle trosedd
- Canfod a dadansoddi cemegol
- Archwilio ein bydysawd
Ar gyfer cyrsiau lefel uwch, mae hefyd disgwyl ichi ail sefyll TGAU Gwyddoniaeth, Mathemateg a Saesneg os nad oes gennych radd C yn barod.
Byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:
- Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys pwnc gwyddonol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae angen ichi fod â diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a'r ysfa i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol, ac ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.
Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Lefel 3) neu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Astudiaethau Iechyd (Lefel 3).
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.