• Llawn Amser
  • Lefel 2

BTEC Tystysgrif Estynedig Gyntaf mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Gwyddoniaeth
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
2

Yn gryno

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, dyma'r cwrs i chi. Mae'r cwrs Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn ymdrin â'r tair gwyddor, gan roi gwybodaeth wyddonol arloesol a chyfredol i chi. Bydd yn eich cyflwyno i weithio yn y sector neu eich paratoi tuag at astudiaethau pellach.

...Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwyddoniaeth

...Rydych eisiau datblygu dealltwriaeth bellach

...Rydych eisiau arddull dysgu ymarferol

Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â gwyddoniaeth yn y gweithle, swydd y technegydd neu ymchwilydd gwyddonol. Byddwch yn astudio wyth uned orfodol, a bydd dwy o'r rheiny yn cynnwys arholiadau:

  • Egwyddorion gwyddoniaeth (yn cael ei arholi)
  • Cemeg a'r ddaear
  • Egni a'r bydysawd
  • Bioleg a'r amgylchedd
  • Cymhwyso sylweddau cemegol
  • Cymhwyso'r gwyddorau ffisegol
  • Cymhwyso iechyd mewn gwyddoniaeth
  • Sgiliau gwyddonol (yn cael ei arholi)

Mae'r cyfuniad yma yn sicrhau eich bod yn ymdrin â phwyntiau allweddol mewn bioleg, cemeg a ffiseg, ynghyd â dealltwriaeth o fyd gwaith galwedigaethau sy'n ymwneud â gwyddoniaeth.

Mae'r cysyniadau allweddol hyn yn ddatblygiad pellach yn yr unedau arbenigol dewisol ac yn drosglwyddadwy i sectorau cyflogedig fel iechyd, gwyddor chwaraeon, gwyddor fforensig a'r diwydiant maetheg. Mae'r unedau hyn yn cynnwys:

  • Y corff byw
  • Ymchwilio safle trosedd
  • Canfod a dadansoddi cemegol
  • Archwilio ein bydysawd

Ar gyfer cyrsiau lefel uwch, mae hefyd disgwyl ichi ail sefyll TGAU Gwyddoniaeth, Mathemateg a Saesneg os nad oes gennych radd C yn barod.

Byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:

I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys pwnc gwyddonol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Mae angen ichi fod â diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a'r ysfa i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol, ac ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.

Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Lefel 3) neu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Astudiaethau Iechyd (Lefel 3).

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBD0012AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy