Yn gryno
Bydd y cwrs yma yn eich cyflwyno i fyd perfformio.
... Oes gennych ddiddordeb mewn perfformio a gweithio yn y diwydiant celfyddydau perfformiadol
 ... Ydych eisiau cwrs ymarferol
 ... Ydych eisiau datblygu sgiliau mewn pynciau yn ymwneud â drama
Ymhlith y cyfleusterau mae gofod theatr pwrpasol, stiwdio ddrama, stiwdio ddawns a gofod ymarfer. Mae astudiaethau'n cynnwys:
Fel rhan o’r cwrs byddwch yn astudio:
- Y busnes celfyddydau perfformiadol
 - Dyfeisio, sgriptio a pherfformio dramâu
 - Actio
 - Symud
 - Canu
 - Theatr gerdd
 
Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus, trwy aseiniadau ymarferol yn bennaf, gyda gwaith ysgrifenedig yn ategu’r sgiliau a ddatblygir gan fyfyrwyr actio. Bydd eich gwaith yn cael ei gymedroli yn allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformiadol
 - Gweithgareddau Sgiliau
 - Mathemateg a Saesneg
 - Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
 
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs yma, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo. Dylai fod gennych ddiddordeb mewn drama a bod â rhywfaint o brofiad o berfformio sylfaenol.
Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus ar Lefel Teilyngdod y Diploma Lefel 2, gallwch wneud cais am y Diploma Estynedig Lefel 3 Celfyddydau Perfformio neu astudiaeth Lefel 3 arall.
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Fel rhan o'r gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu a chymryd rhan mewn sesiwn flasu. Bydd clyweliad gweithdy hefyd yn rhan o'r profiad blasu hwn.