• Rhan Amser
  • Lefel 4

VTCT Gwobr mewn Amlder Radio am Estheteg Lefel 4

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Hyd
8 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lefel
4
Ffioedd
£440.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£380.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£60.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 4 mewn Amledd Radio yn gymhwyster therapi uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 3 sydd yn 18 oed neu'n hŷn gyda'r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. Prif bwrpas y cymhwyster yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau amledd radio.

  • y rheini sydd am gyflwyno triniaethau anfeddygol i'w busnes
  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Therapïau Esthetig
  • y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.

Amledd Radio yw un o'r technolegau anfewnwthiol gwrth-heneiddio mwyaf diogel yn y diwydiant. Technoleg brofedig sydd wedi bodoli am lawer o flynyddoedd yw Amledd Radio, ac mae'n addas ar gyfer pob math groen a chyflwr corfforol. Mae amledd radio yn teimlo'n debyg i dyliniad cynnes yn ystod triniaeth ac mae'n gweithio i annog cynhyrchu colagen a lleihau llacrwydd drwy dynhau eich croen, sydd yn lleihau braster ac yn gwella ffyrfder.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Mesurau Iechyd a Diogelwch i'w hystyried
  • Cynllunio Triniaethau ar gyfer yr wyneb a'r corff
  • Gwybodaeth ynghylch offer
  • Cymhwyso Triniaethau Ymarferol
  • Cyngor cyn ac ar ôl triniaeth
  • Anatomeg, ffisioleg a phatholeg

Cynhelir asesiadau drwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Amledd Radio.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:

  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
  • Dyfarniad Lefel 5 mewn Micro-lafnu Amledd Radio
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen

Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.

Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Manteision Masnachol a Busnes

Gall costau triniaeth amledd radio amrywio rhwng £120 – £160 ar gyfer tynhau croen y wyneb, a rhwng £120 – £350 ar gyfer siapio’r corff.

Beauty student in makeup

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy