Yn gryno
Yn ddelfrydol os ydych mewn proffesiwn awyr agored neu'n gweithio mewn amaethyddiaeth, mae'r cwrs hwn yn addysgu sgiliau allweddol torri coed bychain ichi.
I gynnwys coed hyd at 380mm sy’n cael eu torri i gyfeiriad penodol, gan ystyried maint, pwysau, cyflwr a rhywogaeth y coed. Bydd hyn yn cynnwys torri coed sydd yn sefyll yn ogystal â choed pendrwm, a’r rhai sy’n cael eu pwysoli i gyfeiriad penodol.
..gyrfa mewn swydd awyr agored, megis garddio, rheoli coetir neu amaethyddiaet
….y rhai sydd eisoes wedi dilyn y cwrs Gweithdrefnau sy’n Berthnasol â Llifau Cadwyn NPTC ar ddiogelwch, cynnal a chadw a chroes dorri llifau cadwyn.
Gan adeiladu ar y pynciau yr ymdriniwyd â nhw ar y cwrs CS30, yn cynnwys deddfwriaeth gyfredol, hanfodion gweithredu llifiau cadwyn a defnyddio a chynnal a chadw llifiau cadwyn yn ddiogel, mae'r cwrs hwn yn mynd ymlaen i roi sylw i dorri coed hyd at 380mm mewn diamedr.
Wedi ichi ei gwblhau, gallwch fynd ymlaen i astudio cyrsiau CS32, CS38 a CS39 y NPTC.
NPTC CS32, CS38 and CS39.
Rhaid i chi fod o leiaf 19 oed (ar ddechrau’r flwyddyn academaidd) ac wedi cwblhau’r cwrs NPTC Llif Gadwyn a Gweithrediadau Cysylltiedig ar gynnal a chadw a thrawsdorri.
Bydd angen ichi ddod â:
- Eich dillad diogelwch personol eich hun - ond gellir darparu'r rhain os yw hynny'n angenrheidiol
- Dau lun maint pasbort
- Bocs bwyd a fflasg, er bydd lluniaeth ar gael i'w brynu ar y safle.
Mae'r cwrs yn para am dri diwrnod, yn ogystal ag asesiad hanner diwrnod.