Yn gryno
Byddwch yn archwilio amrywiaeth o syniadau ac adnoddau perthnasol mewn perthynas â Dylunio Graffeg ac yn cynhyrchu ymatebion ymarferol i'r rhain, gan arddangos dealltwriaeth o'r arddulliau, genres a thraddodiadau gwahanol.
...ydych yn greadigol
...hoffwch ddilyn gyrfa mewn dylunio graffeg
...ydych am gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol
Byddwch yn datblygu sgiliau mewn arddangos ystyr, swyddogaeth a diben i ddangos ymwybyddiaeth o gynulleidfa neu gyd-destun bwriadedig i'ch dyluniad. Mae'r 15 wythnos cyntaf o'r cwrs wedi'u dylunio i ddatblygu sgiliau presennol ac annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau newydd.
UG Uned 1: Ymholiad creadigol personol
Bydd yr aseiniad hwn yn para o Ionawr hyd at Fai, lle bydd corff o waith a chanlyniad terfynol yn cael eu cyflwyno i'w hasesu.
U Uned 2: Ymchwiliadau personol
Byddwch yn datblygu'ch briff eich hun i ddatblygu'ch astudiaethau ymhellach mewn aseiniad sy'n para 18 wythnos. Bydd disgwyl i chi gynhyrchu corff o waith, gydag elfen ysgrifenedig o 1000 gair a darn terfynol.
U Uned 3: Aseiniad wedi ei osod yn allanol
Mae'r uned hon o waith wedi'i gosod yn allanol gan CBAC. Cewch gyfnod paratoadol lle gallwch archwilio llwybrau astudio a phenderfynu arno. Yn ogystal, bydd gennych elfen reoledig o 15 awr i gynhyrchu darn o waith terfynol.
Bydd asesiadau'n cael eu cynnal 3 gwaith trwy gydol y flwyddyn academaidd a phan fyddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cyflawni:
- Dylunio Graffeg Lefel UG
- Dylunio Graffeg Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a mathemateg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
O Lefel UG, gallwch barhau â'r cwrs i'r ail flwyddyn astudio i ennill Lefel U cyflawn yn y pwnc hwn.
Gall y rheiny sydd â chymhwyster Lefel U fynd ymlaen ar gwrs Astudio Diploma Sylfaen, cyn ymgymryd â gradd mewn Celf a Dylunio.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a mathemateg.
Mae ffi stiwdio o £10.00 a bydd disgwyl i chi brynu offer celf ar ffurf 'pecyn' sydd wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer gofynion y cwrs.