Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn darparu cyflwyniad ac archwiliad i astudio cymdeithaseg
... Ydych yn chwilfrydig am ddiwylliant
... Ydych eisiau gwell dealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn gweithio
... Ydych yn gallu cymell eich hun ac yn gweithio'n galed
Lefel UG
Uned 1: Mae Caffael Diwylliant yn darparu cyflwyniad craidd i gymdeithaseg. Byddwch yn dysgu diffiniad 'diwylliant' a sut caiff ei drosglwyddo. Rydym hefyd yn astudio'r opsiwn teuluoedd a diwylliant. Mae hwn yn archwilio pynciau megis priodasau, ysgariad ac amrywiaeth teuluol.
Uned 2: Deall cymdeithas a'r dulliau mae ymholi cymdeithasegol yn ystyried dulliau ymchwil cymdeithasegol, gan edrych ar arbrofion, arolygon ac arsylwadau. Yna rydym yn astudio'r opsiwn cymdeithaseg addysg. Mae hwn yn cynnwys pynciau megis rôl addysg ac effaith dosbarthiadau cymdeithasol, ethnigrwydd a rhywedd ar gyrhaeddiad addysgol.
Lefel U
Uned 3: Pwer a rheolaeth. Yn yr uned hon rydym yn astudio'r opsiwn trosedd a gwyriad, sy'n cynnwys patrymau o ddosbarthiad cymdeithasol, diffiniadau ac ystadegau swyddogol y llywodraeth.
Uned 4: Anghydraddoldeb cymdeithasol a dulliau cymhwysol o ymholiadau cymdeithasegol. Mae'r uned hon yn gofyn i chi ddylunio, cyfiawnhau a gwerthuso darn o ymchwil cymdeithasegol. Byddwch hefyd yn astudio anghydraddoldeb cymdeithasol, yn cynnwys gwahaniaethiad a haeniad cymdeithasol.
Nid oes gwaith cwrs ar y cwrs hwn. Mae dull asesu'r Lefel UG ac U yn cynnwys dau arholiad ysgrifenedig a sefir ar ddiwedd y flwyddyn. Yn gyffredinol mae'r arholiadau'n seiliedig ar draethodau. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Cymdeithaseg Lefel UG
- Cymdeithaseg Lefel U
- Gweithgareddau Sgiliau
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gellir astudio Cymdeithaseg fel cymhwyster UG 'annibynnol' neu ar ôl cwblhau'r Lefel UG yn llwyddiannus, cewch fynd ymlaen i Lefel U.
Addysg Uwch neu gyrsiau/gyrfaoedd sy'n ymwneud â phobl, megis yr heddlu, newyddiaduraeth, rheolaeth, y gyfraith, addysgu a gwaith cymdeithasol.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.