Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag archwilio Addysg Gorfforol ac yn eich helpu chi i wella'ch perfformiad eich hun
... Ydych wrth eich bodd yn bod yn actif
... Ydych yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon
... Ydych am gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol
Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i 2 uned:
Uned 1 - Archwilio Addysg Gorfforol
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud, 24% o'r cymhwyster Lefel U (60% o'r cymhwyster Lefel UG)
- Ffisioleg ymarfer corff, dadansoddi perfformiad a hyfforddiant
- Seicoleg chwaraeon
- Caffael sgiliau
- Chwaraeon a'r gymdeithas
Uned 2 - Gwella perfformiad personol mewn Addysg Gorfforol
Asesiad heb arholiad, 16% o'r cymhwyster Lefel A (40% o'r cymhwyster Lefel UG).
- Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr ac fel hyfforddwr neu swyddog
- Proffil perfformiad personol
Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Addysg Gorfforol Lefel UG
- Addysg Gorfforol Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
Dylech fod yn cymryd rhan reolaidd mewn o leiaf un math o chwaraeon ar lefel clwb a phan fo’n bosib, dylech fod yn chwarae i goleg os yw’r chwaraeon hwnnw’n cael ei gynnig.
Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gellir defnyddio Addysg Gorfforol Lefel UG fel cymhwyster 'annibynnol', er mwyn ehangu'ch ystod o bynciau ar Lefel UG neu bynciau galwedigaethol, neu gallwch barhau i Lefel U. Gall cwblhau cymhwyster Lefel A yn llwyddiannus arwain at gyrsiau prifysgol mewn pynciau megis Gwyddor Chwaraeon, Astudiaethau Chwaraeon a Ffisiotherapi. Mae Addysg Gorfforol Lefel UG ac U yn darparu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon ac addysgu.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a gradd B mewn Addysg Gorfforol