Yn gryno
Dyma eich cam cyntaf i'w gwneud hi ym myd busnes. Mae Astudiaethau Busnes yn bwnc difyr sy'n gofyn i chi ystyried y materion ysbrydol, moesol, moesegol, cymdeithasol, diwylliannol a chyfoes sydd ynghlwm â busnesau, cydnabod bod amcanion busnes yn cael eu hysbrydoli gan y materion hyn a bod angen ystyried nifer o randdeiliaid yn y broses gwneud penderfyniadau.
... Yw'r byd busnes yn eich rhyfeddu chi
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn rhagweithiol
... Ydych eisiau rôl uwch mewn busnes neu eisiau rhedeg eich busnes eich hun
Mae'r cwrs Lefel U yn adeiladu ar y wybodaeth, dealltwriaeth a'r sgiliau yr enillasoch ym Mlwyddyn Un, ac yn eu datblygu. Asesir drwy arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd bob blwyddyn. Nid oes gwaith cwrs.
Mae pedwar modiwl yn y cwrs:
- Lefel UG: Cyfleoedd Busnes (Uned 1)
- Swyddogaethau Busnes (Uned 2)
- Lefel U: Dadansoddiad a Strategaeth Busnes (Uned 3)
- Busnes mewn Byd Newidiol (Uned 4)
Mae'r cyrsiau Astudiaethau Busnes Lefel UG ac U, fel arfer yn cael eu cyflwyno fel rhan o raglen astudiaeth rhan neu lawn amser, yn cael eu cynnig yn ystod y dydd, dros dri diwrnod. Felly maent hefyd yn addas i'r rheiny sy'n dymuno ymgymryd ag un pwnc ac sy'n gallu mynychu ar amseroedd gwahanol yn ystod yr wythnos.
Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Astudiaethau Busnes Lefel UG
- Astudiaethau Busnes Lefel U
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gellir astudio Astudiaethau Busnes Lefel UG neu U naill ai fel prif gymhwyster, i barhau gydag o mewn Addysg Uwch, neu gallai fod yn ychwanegiad gwerthfawr i gyrsiau priflif eraill.
Mae nifer o fyfyrwyr o'r Gwyddorau, Mathemateg, Ieithoedd a'r Dyniaethau yn dilyn gyrfaoedd yn yr amgylchedd busnes ac yn cael budd mawr o'r wybodaeth a enillir yn y cymhwyster.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd.
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio teithiau maes a digwyddiadau busnes.