Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio tri llwyfan cyfryngau - darlledu, argraffu ac e-gyfryngau (y rhyngrwyd a thechnoleg symudol).
Mae’r cysyniadau allweddol sy’n strwythuro’r cwrs yn cynnwys iaith gyfryngol, cynrychiolaeth, diwydiannau cyfryngol a chynulleidfaoedd.
...hoffwch fynd ymlaen i addysg uwch
...oes gennych chi ddiddordeb mewn astudiaethau'r cyfryngau
...ydych eisiau gyrfa yn niwydiant y cyfryngau
Mae pwysoliad y cyrsiau Lefel UG ac U yn 60% arholiad a 40% gwaith cwrs, gan fod y ddau yma bellach yn gymwysterau ar wahân.
Mae'r cwrs Lefel A yn cynnwys dau gynhyrchiad ymarferol, sy'n eich caniatáu i greu cyfryngau electronig, deunyddiau clyweledol ac argraffedig, defnyddio Adobe Premier a Photoshop. Mae'r cwrs UG yn gofyn i chi gynhyrchu un cynnyrch cyfryngau o'r llwyfannau a restrwyd uchod.
Bydd gofyn ichi sefyll un arholiad ysgrifenedig yn nhymor yr haf ar gyfer Lefel U yn y Cyfryngau. Os dewisoch ymgymryd â chwrs UG yn y Cyfryngau, bydd gofyn i chi sefyll un arholiad yn nhymor yr haf yn ogystal â'r gwaith cwrs. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Y Cyfryngau Lefel UG
- Y Cyfryngau Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Er mwyn cael mynediad, byddwch angen isafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf yn ogystal â Mathemateg.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gallwch symud ymlaen i gyrsiau prifysgol mewn pwnc yn ymwneud â’r cyfryngau, megis astudiaethau ffilm a theledu, astudiaethau diwylliannol neu newyddiaduraeth, neu unrhyw gyrsiau sy’n ymwneud â chyfathrebu.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg.